Cymraeg, Caredig, Cyfrifol
Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
Gweledigaeth a Gwerthoedd
Prosbectws
Adroddiad Estyn
Hwb Bugeiliol
Hwb Dysgu ac Addysgu
Newyddion a Digwyddiadau
Trosglwyddo Blwyddyn 6 i 7
Gwisg Ysgol
ParentPay - Count on us

Newyddion Sylw

 
Darllen mwy...

Hysbysfwrdd

Trosglwyddo o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7!

LLONGYFARCHIADAU ENFAWR i holl ddisgyblion Blwyddyn 6 sydd wedi ennill lle yn Ysgol Morgan Llwyd ar gyfer Medi, 2024!

Cliciwch YMA i weld eich Pecyn Croeso Blwyddyn 7 ynghyd ag adnoddau defnyddiol eraill i'ch helpu i baratoi at fywyd ym Morgan Llwyd!


Grwp Cefnogi Gofalwyr

Ble: Ysgol Morgan Llwyd.

Pryd: Pob yn ail ddydd Iau am 12.00yp yn cychwyn o’r 07-03-24.

Pwy: Unrhyw un sydd yn gofalu am blant / pobl ifanc nad ydynt yn rhieni / llys-rieni iddynt e.e. y rhai sydd â Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig.

Pwy sy'n gofalu am y gofalwyr?

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Ms Heddus Wyn, Ysgol Morgan Llwyd.


BLWYDDYN 11 : GWNEWCH GAIS AM LE YN Y 6ed DOSBARTH NAWR!

Cliciwch YMA i wneud cais!
 
 

EIN CAMPWS

Cliciwch YMA i ddefnyddio map rhyngweithiol o'r campws!


POENI AM WAITH YSGOL EICH PLENTYN?

Ydy eich plentyn yn cael trafferthion deall pynciau penodol, technegau adolygu, cymhelliant neu brofion?

Bellach, gallwch gyfeirio eich plentyn at Hwb Dysgu/Addysgu yr ysgol i gael help unigol, ychwanegol!

Cliciwch YMA i ddarganfod sut mae gwneud hyn!

Cliciwch YMA i fynd i wefan Yr Hwb Dysgu!

Digwyddiadau i Ddod

Apr
08

Dechrau'r hanner tymor

Apr
23

Noson Rhieni Blwyddyn 8

May
06

Gwyl y Banc

May
24

Diwedd hanner tymor


Calendr Llawn

Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Croeso i wefan Ysgol Morgan Llwyd. Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi’i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy’n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Daw ein disgyblion o’r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o’r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth.

Ein Gweledigaeth

Mae Ysgol Morgan Llwyd yn gymuned falch, groesawgar sy’n angerddol dros allu pob unigolyn i gyflawni ei botensial a’i uchelgais, ac i ddatblygu i fod yn aelod hapus, hyderus, annibynnol a chyfrifol o’i gymdeithas.

Yma, mae pob unigolyn yn cyfrif. Dathlwn fod pob unigolyn yn unigryw a bod pawb yn cael eu hannog i ffynnu’n academaidd, yn greadigol ac yn bersonol mewn awyrgylch Cymraeg clòs, gofalgar a chefnogol. Does neb yn cael ei adael ar ôl.

“Ym mhob llafur mae elw”. Ym Morgan Llwyd, cydweithiwn tuag at, a chyd-ddathlwn, ragoriaeth a llwyddiannau pob aelod o’n cymuned.

Cymraeg. Caredig. Cyfrifol.

Ein Gwerthoedd

Mae disgyblion Ysgol Morgan Llwyd yn ddysgwyr uchelgeisiol

  • Rydym yn parchu hawl pawb i ddysgu
  • Rydym yn barod i fentro a dyfalbarhau
  • Rydym yn falch o’n gwaith, o’n ysgol a’n gwlad

Mae disgyblion Ysgol Morgan Llwyd yn ddinasyddion da

  • Rydym yn gwrtais a charedig at bawb
  • Rydym yn gofalu ar ôl ein hysgol a’n gilydd
  • Rydym yn cymryd rhan ym mywyd yr ysgol