
Dirprwy Bennaeth
Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn gwahodd ceisiadau ar gyfer swydd Dirprwy Bennaeth yr ysgol.
Mae’r ysgol ar daith i fod yn ysgol ragorol sydd yn darparu addysg o’r radd flaenaf ar gyfer pob disgybl. Rydym yn chwilio am berson i gyd-weithio’n effeithiol gyda phob rhanddeiliad i adeiladu ar gryfderau’r ysgol a symud ymlaen i ddyfodol llewyrchus a llwyddiannus.
Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Bydd union gyfrifoldebau yn cael eu trafod gyda’r ymgeisydd llwyddiannus.
Am sgwrs anffurfiol yngl?n â’r swydd ac i drefnu ymweliad, neu am wybodaeth bellach cyn cyflwyno cais, cysylltwch â’r ysgol. I ymgeisio: llenwch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y dudalen we (Swyddi Gwag Ysgol Morgan Llwyd)
Dychwelwch ffurflenni cais wedi eu cwblhau yn uniongyrchol i Miss N. Ketland ar ketlandn7@hwbcymru.net
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Bydd angen DBS ar gyfer y swydd hon.