Newyddion Sylw
NEWYDDION GAN RAM LEISURE!
Meddwl prynu gwisg ysgol newydd ar gyfer mis Medi? Cliciwch YMA ac YMA am newyddion gan RAM...
Darllen mwy...
Hysbysfwrdd
Ydych chi’n gymwys i hawlio hyd at £200 i helpu gyda chostau ysgol?
Cliciwch YMA ddarganfod mwy!
TROSGLWYDDO O FLWYDDYN 6 > BLWYDDYN 7
Mae'r holl wybodaeth rydych chi ei hangen er mwyn sicrhau profiad Trosglwyddo esmwyth ar gael YMA !
PWYSIG! MAE YSGOL MORGAN LLWYD YN YSGOL DDI-GNAU!
Er mwyn cadw'r disgyblion a staff hynny sy'n dioddef o alergedd cnau yn hapus ac yn iach, sicrhewch nad ydych chi'n dod â bwydydd sy'n cynnwys cnau i'r ysgol!
EIN CAMPWS
Cliciwch YMA i ddefnyddio map rhyngweithiol o'r campws!
POENI AM WAITH YSGOL EICH PLENTYN?
Ydy eich plentyn yn cael trafferthion deall pynciau penodol, technegau adolygu, cymhelliant neu brofion?
Bellach, gallwch gyfeirio eich plentyn at Hwb Dysgu/Addysgu yr ysgol i gael help unigol, ychwanegol!
Cliciwch YMA i ddarganfod sut mae gwneud hyn!
Cliciwch YMA i fynd i wefan Yr Hwb Dysgu!
Digwyddiadau i Ddod
Canlyniadau Lefel A / AS
Canlyniadau TGAU
HMS (Hyfforddiant staff)
HMS (Hyfforddiant staff)

Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
Croeso i wefan Ysgol Morgan Llwyd. Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi’i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy’n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Daw ein disgyblion o’r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o’r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth.
Ein Gweledigaeth
Mae Ysgol Morgan Llwyd yn gymuned falch, groesawgar sy’n angerddol dros allu pob unigolyn i gyflawni ei botensial a’i uchelgais, ac i ddatblygu i fod yn aelod hapus, hyderus, annibynnol a chyfrifol o’i gymdeithas.
Yma, mae pob unigolyn yn cyfrif. Dathlwn fod pob unigolyn yn unigryw a bod pawb yn cael eu hannog i ffynnu’n academaidd, yn greadigol ac yn bersonol mewn awyrgylch Cymraeg clòs, gofalgar a chefnogol. Does neb yn cael ei adael ar ôl.
“Ym mhob llafur mae elw”. Ym Morgan Llwyd, cydweithiwn tuag at, a chyd-ddathlwn, ragoriaeth a llwyddiannau pob aelod o’n cymuned.
Cymraeg. Caredig. Cyfrifol.
Mae disgyblion Ysgol Morgan Llwyd yn ddysgwyr uchelgeisiol
- Rydym yn parchu hawl pawb i ddysgu
- Rydym yn barod i fentro a dyfalbarhau
- Rydym yn falch o’n gwaith, o’n ysgol a’n gwlad
Mae disgyblion Ysgol Morgan Llwyd yn ddinasyddion da
- Rydym yn gwrtais a charedig at bawb
- Rydym yn gofalu ar ôl ein hysgol a’n gilydd
- Rydym yn cymryd rhan ym mywyd yr ysgol