
Gyrfau
https://www.smartsurvey.co.uk/s/YK6CE/
Her Dechrau Rhywbeth Da – AR AGOR NAWR!
Mae Syniadau Mawr Cymru yn falch o lansio Her Menter Gymdeithasol Dechrau Rhywbeth Da 2021 ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed sy’n byw yng Nghymru.Rydym yn cyflwyno'r Her yma i chi mewn partneriaeth â Chanolfan Cymdeithasol Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru, Academi Mentrau Cymdeithasol Cymru, Simply Do & UnLtd. Mae ffocws yr Her ar Fenter Gymdeithasol – gwneud rhywbeth da. Rydym eisiau clywed gan bobl ifanc os meddyliant am ATEB i rywbeth a fyddai’n cael effaith BOSITIF ar y bobl o’u cwmpas / yn eu cymuned. Gobeithiwn y bydd yr Her yn helpu i ddatblygu dinasyddion mentrus, creadigol, moesegol a gwybodus. Gwyddom fod gan bobl ifanc farn gadarn am y byd o’u cwmpas ac mae yna nifer cynyddol ar draws Cymru sydd eisiau gwneud rhywbeth da – felly anogwch nhw i gymryd rhan, os gwelwch yn dda!Gall pobl ifanc weithio ar yr her ar eu pennau eu hunain neu mewn grwpiau - gartref, yn yr ysgol, coleg neu fel rhan o grwp cymunedol.Bydd yn rhoi cyfle i arddangos eu talentau entrepreneuraidd a’u dealltwriaeth o effaith menter gymdeithasol.Mae dau gategori oedran: 11-16 (16 ac iau) ac 16-18 (ô1-16). Bydd yr enillwyr rhanbarthol ym mhob categori yn derbyn £100 i’w roi i fenter gymdeithasol neu elusen lleol o’u dewis, yn ogystal â hwdis Syniadau Mawr Cymru. Bydd un syniad buddugol (yng nghategori 16-18 mlwydd oed) yn derbyn hyd at £200, yn ogystal â chefnogaeth mentora i’w galluogi i ddatblygu eu syniad busnes – ynghyd â hwdi gan Syniadau Mawr Cymru.Mae croeso i chi rannu’r poster digidol (wedi’i atodi) ar eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Byddem yn gwerthfawrogi hefyd petaech yn gallu rhannu manylion yr Her âchymaint o’ch rhwydweithiau a phartneriaid â phosib.
Am fanylion pellach am sut i ymgeisio, yr amserlen, adnoddau defnyddiol a llawer mwy ewch i:
www.syniadaumawr.cymru/echraurhywbethda
Twitter: @SyniadauMawrCym
Instagram a Facebook: @SyniadauMawrCymru
28ain Ebrill - dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau arlein.
26ain Mai – cyhoeddi’r buddugwyr ac arddangos casgliad o’r syniadau ar wefan Syniadau Mawr Cymru
Gyrfa Cymru - Dewiswch Eich Dyfodol Gogledd Cymru.
Blwyddyn 9 - 13 - Dydd Mercher 10 Mawrth - Mae’n bleser gan Gyrfa Cymru eich gwahodd chi a’ch disgyblion i ddigwyddiad digidol Dewiswch Eich Dyfodol Gogledd Cymru.
Mae’r digwyddiad gyrfaoedd hwn am ddim wedi’i anelu at ddisgyblion blwyddyn 9 ac uwch a bydd yn canolbwyntio ar sectorau sy’n dod i’r amlwg ledled Cymru, gan gynnwys:-
- Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
- Adeiladu
- Creadigol a digidol
- Ynni a’r Amgylchedd
- Cyllid a proffesiynol
- Bwyd a Ffermio
- Iechyd a gofal cymdeithasol
- Twristiaeth a Lletygarwch
Dyma gyfle gwych i ddisgyblion glywed gan arbenigwyr mewn diwydiant, darganfod mwy am y byd gwaith a chymryd rhan mewn sesiynau holi ac ateb byw gyda chyflogwyr.
https://careerswales.gov.wales/events/choose-your-future-north
Blwyddyn 9 - Opsiynau - Opsiynau pwnc blwyddyn 8 a 9 | Careers Wales (llyw.cymru)
Blwyddyn 11
Blwyddyn 12
Mae Ysbyty Maelor Wrecsam yn cynnig wythnos feddygol ar gyfer y 6ed dosbarth i fyfyrwyr sydd gyda diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y byd meddygol. (h.y. gyda’r bwriad o fod yn Ddoctor) Os ydych ym mlwyddyn 12 ac yn dymuno ymgeisio am y cwrs 5 diwrnod yma, mae angen cwblhau’r ffurflen sydd wedi ei atodi.
Blwyddyn 13
Gyrfa Cymru - https://gyrfacymru.llyw.cymru/
Manylion prentisiaeth Kelloggs https://kelloggs.taleo.net/careersection/2/jobdetail.ftl?job=ENG000874&lang=en
Cliciwch YMA i weld gwybodaeth am Brentisiaeth Ffilm a Theledu!