Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Hanes

Curriculum > History

Croeso i’r Adran Hanes!

Mae pob disgybl ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 yn cael cyfle i astudio’r pwnc gan edrych ar amrywiaeth o gyfnodau hanesyddol o’r flwyddyn 1000 hyd y presennol.  Caiff disgyblion gyfle i astudio amrywiaeth o hanes Cymru a’r byd wrth ddatblygu eu sgiliau allweddol o ymholi, dehongli a chyfathrebu gwybodaeth a thystiolaeth.  Fel pob un o’r Dyniaethau, mae Hanes yn cynnig cyfle i astudio pobl drwy ddatblygu dealltwriaeth o’n treftadaeth fel dinasyddion Cymru a’r byd. 

Mae Hanes yn ddewis poblogaidd ar gyfer cyrsiau TGAU a Safon Uwch ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion ehangu ar eu dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas.  Unwaith yn rhagor, mae manyleb y cwrs arholiad yn cynnig cyfle i astudio amrywiaeth o Hanes Cymru, Prydain a rhyngwladol. 

Mae cyfle i ddisgyblion ddysgu tu allan y dosbarth gyda theithiau addysgiadol, fel taith i Quarry Bank Mill ar gyfer y Chwyldro Diwydiannol, Maes y Gad yn Ffrainc a Gwlad Belg ar gyfer y Rhyfel Mawr, a’r Unol Daleithiau i astudio hanes America. Gall astudio Hanes arwain at nifer eang o lwybrau gyrfau, o newyddiaduraeth i’r byd Gyfraith; gyrfa ym myd addysg neu gwleidyddiaeth a llywodraeth.