GWERSI BYW AR GOOGLE CLASSROOM
Bydd dysgu ar lein yn parhau tan y 29ain o Ionawr, ac yn ddigon posibl tan hanner tymor mis Chwefror. Bydd athrawon yr ysgol yn trefnu gwersi byw a gwaith ar Google Classroom. Mae hi'n hollbwysig fod pob disgybl yn ymdrechu i fod yn bresennol yn ystod y gwersi hyn.
I ddarllen ein canllawiau ar ymuno gyda gwersi byw, cliciwch y linc hwn: CANLLAW GWERSI BYW
I wylio ffilm fer am sut i ymuno gyda gwers fyw, cliciwch y linc hwn: YMUNO GYDA GWERS FYW
Cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio XBox neu Playstation ar cyfer cyfrif Hwb, cliciwch y linc hwn: HWB XBOX PLAYSTATION
Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
Croeso i wefan newydd Ysgol Morgan Llwyd. Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi’i lleoli yn nhref Wrecsam ac sy’n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Daw ein disgyblion o’r dref ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o’r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth.
- Rydym yn eich annog i ymweld â’r wefan yn aml am wybodaeth a gohebiaeth gyfredol neu i gael golwg ar yr hyn sy’n digwydd yn yr ysgol a’r newyddion diweddaraf.
- Ymfalchïwn yn ein traddodiad o lwyddiant academaidd ein disgyblion a'u llwyddiannau ymhob rhan o fywyd allgyrsiol yr ysgol.
- Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y bartneriaeth agos sydd rhyngom ni a chi'r rhieni a gobeithiwn y bydd y berthynas hon yn cryfhau drwy’r defnydd o’r wefan.
Dilynwch ni
Cofio Mr Sam Dodd
1986 - 2020
Athro Celf Ysgol Morgan Llwyd

Gorchwyl eithriadol o drist ydy ysgrifennu hyn o eiriau i gofio am Mr Sam Dodd fu farw mor ofnadwy o sydyn ac annisgwyl ac yntau ond yn 34 oed.
Roedd Mr Dodd yn gyn-ddisgybl Ysgol Morgan Llwyd ac mae nifer o’n staff presennol yn ei gofio yn tyfu ac yn datblygu i fod yn artist a ffotograffydd talentog dros ben.
Rydym yn cydymdeimlo’n fawr iawn gyda’r teulu yn eu profedigaeth. Gwelir ei golli yma yn yr ysgol hefyd. Daw hynny i’r amlwg wrth wybod am deimladau staff sydd wedi colli cydweithiwr da, cydwybodol a’i draed ar y ddaear. Gwelir hynny hefyd yn ymateb a theyrngedau’r disgyblion fu dan ei ofal. Roedd Mr Dodd yn athro heb ei ail, yn hynod dalentog, gwbwl ddi-ffwdan gyda dyfodol disglair iawn o’i flaen. Cerddodd goridorau’r ysgol gyda gwên enfawr ar ei wyneb. Disgleiriodd nid yn unig fel athro Celf a Ffotograffiaeth ond roedd ganddo ddawn arbennig ar yr ochr fugeiliol o’r swydd hefyd. Rhoddodd gefnogaeth amhrisiadwy i gynifer o ddisgyblion Ysgol Morgan Llwyd.
Gwr ifanc hynaws a bonheddig, talentog a galluog. Bydd hiraeth dirfawr ar ei ôl.
Y Newyddion Diweddaraf

Canslo Asesiadau Mewnol
Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw y bydd ysgolion yn aros ar gau tan hanner tymor...
Darllen mwy...
Digwyddiadau i Ddod
12th Feb | Ysgol ar gau ar gyfer hanner tymor |
13th Feb | Hanner tymor |
26th Mar | Ysgol ar gau ar gwyliau'r Pasg |
27th Mar | Gwyliau'r Pasg |