Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Cymraeg

Croeso i Adran y Gymraeg!

Mae Cymraeg yn bwnc y bydd pob disgybl o flwyddyn 7 i 11 yn ei astudio. Ceir cyfle i wneud gwaith llafar, darllen ac ysgrifennu. Caiff y disgyblion bedair gwers Gymraeg yn wythnosol ac o fewn y gwersi hynny datblygir sgiliau a fydd yn rhoi cymorth i’r disgyblion ddatblygu eu hiaith lafar ac ysgrifenedig. Rhoddwn bwyslais ar ddilyn themâu cyfoes a hwyliog y bydd y disgyblion yn gallu uniaethu â hwy a’u mwynhau. Wrth ddilyn y cwrs TGAU bydd disgyblion yn astudio ar gyfer derbyn dwy radd ar ddiwedd blwyddyn 11, sef Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth. Cynigiwn y cwrs Safon Uwch hefyd lle rhoddir cyfle i ddatblygu’r Gymraeg ymhellach.   

Mae cyfle i ddisgyblion brofi’r Gymraeg yn allgyrsiol hefyd drwy deithiau addysgiadol a sgyrsiau gan awduron a beirdd. Gall astudio Cymraeg arwain at nifer eang o lwybrau gyrfâu, o athro/athrawes i gyfieithydd, o gyfreithiwr i ohebydd papur newydd