Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Cyngor Ysgol

 

Mae pob dosbarth cofrestru wedi ethol dau gynrychiolydd dosbarth. Rol y cynrychiolwyr yw casglu safbwyntiau a syniadau eu dosbarth cofrestru a'u rhannu mewn cyfarfod cyngor blwyddyn. Caiff cyfarfod blwyddyn ei gynnal bob tymor gyda phennaeth y flwyddyn neu aelod o'r UDRH yn cadeirio. Yn y cyfarfodydd, bydd cyfle i'r cynrychiolwyr godi materion sy'n eu pryderu neu unrhyw syniadau sydd ganddynt a bydd y rhain yn cael eu pasio i'r Uwch Dim Rheoli. Ar ol eu trafod, bydd yr Uwch Dim yn adrodd yn ol i'r flwyddyn drwy gyfrwng cyflwyniad a gaiff ei ddangos i bob dosbarth cofrestru.