Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Technoleg Gwybodaeth

Croeso i’r Adran Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCH).

Bydd disgyblion bl 7, 8 a 9 yn datblygu eu sgiliau llythrennedd ddigidol drwy gyfrwng eu pynciau. Mae gan bob adran yn yr ysgol adnoddau TGCH a byddant yn defnyddio TGCH fel rhan integredig o'r dysgu. Ym mlwyddyn 9, bydd disgyblion yn cwblhau dwy uned o waith Lles er mwyn cael blas o'r cwrs TGAU a datblygu ei sgiliau ymhellach. 

Mae Technoleg Ddigidol yn gwrs TGAU poblogaidd ac mae cyfle i ddisgyblion astudio Lefel A mewn TGCH drwy broject e-sgol. Gall astudio TGCH arwain at nifer eang o lwybrau gyrfau, gan gynnwys rhai nad ydynt yn bodoli eto efallai!