Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Addysg Gorfforol

Adran Addysg Gorfforol 

Mae’r adran Addysg Gorfforol yn adran brysur, brwdfrydig ac uchelgeisiol iawn. Rydym yn anelu i baratoi a dysgu gwersi o’r safon uchaf sydd yn sicrhau llwyddiant i bob disgybl, ac mae ein hamserlen allgyrsiol yn datblygu’r amcanion hyn ymhellach ar lefel sirol ac ardal. Mae yna ddisgwyl i bob disgybl ddod â’r cit cywir i bob gwers Addysg Gorfforol, ac os oes gan ddisgybl reswm meddygol sy’n golygu na all gymryd rhan mewn gwers, dylid nodi hynny trwy lythyr gan riant neu dystysgrif meddygol. 

Cyfleusterau 

Rydym yn ffodus iawn yn yr adran ein bod yn rhannu ein cyfleusterau gyda Chanolfan Hamdden Morgan Llwyd ac felly yn elwa o gael Neuadd Chwaraeon gyda wal ddringo, Campfa gydag adnoddau gymnasteg ardderchog, Cae 3G, Caeau Chwarae a Chyrtiau Pel-Rwyd. Mae gennym hefyd ystafell ddysgu gyda bwrdd gwyn rhyngweithiol. 

Cyfnod Allweddol 3 

Mae pob grwp dysgu yng nghyfnod allweddol 3 yn cael eu gosod mewn grwpiau yn ôl eu gallu. Rydym yn cynnig amrywiaeth fawr o weithgareddau, fel y gweler isod: 

  • Gymnasteg 
  • Pel-Fasged 
  • Dawns 
  • Ffitrwydd
  • Pel-Droed 
  • Gweithgareddau Anturus 
  • Rygbi 
  • Tenis Byr 
  • Hoci 
  • Badminton 
  • Pel-Rwyd 
  • Athletau 
  • Criced 
  • Rownderi 

Mae pob disgybl yn cael ei asesu ar ddechrau, yn ystod ac ar ddiwedd pob uned o waith, ac rydym yn tracio eu datblygiad fel y maent yn mynd trwy gyfnod allweddol 3. 

Cyfnod Allweddol 4 

Mae disgyblion blwyddyn 10 ac 11 yn cael 1 gwers statudol yr wythnos. Maent yn dilyn rhaglenni gwaith tebyg i ddisgyblion cyfnod allweddol 3, ond mae mwy o bwyslais ar sgiliau arweinyddol ac hyfforddi ac hefyd ar bwysigrwydd mwynhau er mwyn sicrhau ymlyniad i weithgareddau corfforol pan maent yn gadael yr ysgol.  

TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch 

Mae Addysg Gorfforol ar gael fel pwnc arholiad gyda nifer o ddisgyblion yn dewis eu dilyn, ac yn wir parhau i astudio Addysg Gorfforol fel pwnc yn y Coleg neu Brifysgol.  

Allgyrsiol 

Mae pob aelod o staff yn yr adran yn gweithio yn galed iawn i ddarparu gymaint o gyfleoedd â sy’n bosib i ddisgyblion yr ysgol. Mae clybiau yn rhedeg yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol, ac rydym yn cymryd rhan mewn nifer helaeth o gystadleuaethau. Mae gennym hefyd swyddog 5x60 sydd yn gweithio yn yr adran yn rhan amser, ac mae’r clybiau 5x60 y mae hi wedi ei drefnu ar gyfer y disgyblion yn boblogaidd iawn ac yn sicrhau bod yr adran yn brysur rhwng yn ogystal ag yn ystod gwersi. 

Rydym hefyd yn trefnu tripiau i’r disgyblion hynny sydd yn dangos ymroddiad i weithgareddau allgyrsiol yr adran, ac wedi ymweld â Wimbledon, Sportcity ym Manceinion a Taith Sgio i’r Eidal yn ddiweddar.