Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Swyddi Gwag

Athro / Athrawes Saesneg

Mae Ysgol Morgan Llwyd yn awyddus i benodi athro / athrawes Saesneg dros dro yn dechrau ar y 5ed o Ionawr, 2026 hyd yr 17eg o Orffennaf, 2026. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at ddysgu Saesneg i flynyddoedd 7-11.Mae hon yn swydd dros dro, rhan amser, tri diwrnod yr wythnos (Mawrth, Mercher a Gwener). Telir cyflog yn unol a graddfa gyflog athrawon.Am ragor o wybodaeth gweler y pecyn gwybodaeth sydd ar gael ar wefan yr ysgol neu cysylltwch... Darllen mwy...

Athro / wes Gwyddoniaeth - Ail hysbyseb

Mae Ysgol Morgan Llwyd yn awyddus i benodi athro / athrawes Wyddoniaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at ddysgu Gwyddoniaeth i flynyddoedd 7-9 ac yn addysgu TGAU Bioleg, Cemeg neu Ffiseg gyda phosibilrwydd o ddysgu lefel A hefyd yn y dyfodol.Mae hon yn swydd lawn amser, parhaol, i ddechrau o Ionawr 2026 neu cyn gynted a phosibl ar ôl hynny. Telir cyflog yn unol a graddfa gyflog athrawon.Am ragor o wybodaeth gweler y pecyn gwybodaeth... Darllen mwy...

Cymhorthydd Dysgu Lefel 2

Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn dymuno penodi Cymhorthydd Dysgu Lefel 2 i weithio yn yr ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd y rôl o fewn prif ffrwd yr ysgol ond bydd deiliad y swydd hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Adnodd Dysgu (Camau). Fe fydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol trwy ddulliau dysgu cyfunol. Bydd disgwyl i chi ddarparu adborth manwl a rheolaidd... Darllen mwy...

Swyddog Cefnogi Lles a Chymorth Cyntaf

Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn dymuno penodi Swyddog Cefnogi Lles a Chymorth Cyntaf i weithio yn ystod absenoldeb mamolaeth. Mae hon yn swydd 37 awr yr wythnos, yn ystod tymor yr ysgol yn unig (38 wythnos y flwyddyn), i ddechrau cyn gynted a phosibl. Am ragor o wybodaeth gweler y pecyn gwybodaeth neu cysylltwch â Miss Rhian Owen [email protected]. Am sgwrs anffurfiol a’r Pennaeth, Mr Iwan Owen-Ellis,ffoniwch 01978 315050... Darllen mwy...