Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Goruchwyliwr Llanw Lefel 4

Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn dymuno penodi Goruchwyliwr Llanw Lefel 4 i weithio yn yr ysgol hapus a llwyddiannus hon.

Rôl y swydd fydd cyflenwi gwersi oherwydd absenoldeb staff. Darparu gweithgareddau dysgu i unigolion / grwpiau, tra hefyd yn monitor ac asesu.   Cofnodi ar adrodd ar lwyddiant cynnydd a datblygiad disgyblion. Am ragor o wybodaeth gweler y Swydd Ddisgrifiad.

 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon yn hanfodol.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda Miss Rhian Owen Rheolwr Busnes [email protected].

 I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwelwch yn dda a’i ddychwleyd at Miss Rhian Owen, Rheolwr Busnes, drwy e-bost [email protected] erbyn hanner dydd ar 11 Gorffennaf 2025.

 

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran

Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)


Downloads