Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Gwyddoniaeth

Croeso i’r Adran Wyddoniaeth!

Mae gwersi Gwyddoniaeth yn datblygu sgiliau ymchwiliol, ymarferol a dadansoddol y disgyblion o fewn y tri maes dysgu – Bioleg, Cemeg a Ffiseg.  Ym mlynyddoedd 7 ac 8 bydd disgyblion yn dysgu unedau Bioleg, Cemeg a Ffiseg ac yn cael cyfle i ddylanwadu ar y cynlluniau gwaith.  Ym mlwyddyn 9 maent yn cael eu dysgu mewn rota gan arbenigwyr o fewn y meysydd gan ddatblygu eu sgiliau yn barod ar gyfer cyrsiau TGAU.  Mae Gwyddoniaeth yn bwnc craidd ac felly bydd pob disgybl yn ennill o leiaf 2 TGAU ar ddiwedd blwyddyn 11 trwy ddilyn y cwrs TGAU Gwyddoniaeth Dwyradd, ond gallent ddewis Gwyddoniaeth fel opsiwn ar ddiwedd blwyddyn 9 gan ennill graddau mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg ar wahân ar ddiwedd blwyddyn 11.   Mae’r cyrsiau Safon Uwch yn sail ar gyfer astudiaethau pellach mewn unrhyw faes gwyddonol.