Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Croeso

Croeso i wefan Ysgol Morgan Llwyd.

Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi’i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy’n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Daw ein disgyblion o’r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth.  Ymfalchïwn yn ein traddodiad o lwyddiant academaidd ein disgyblion a'u llwyddiannau ymhob rhan o fywyd allgyrsiol yr ysgol.

Cliciwch YMA i weld map rhyngweithiol o'r ysgol. 

Ein Gweledigaeth

Mae Ysgol Morgan Llwyd yn gymuned falch, groesawgar sy’n angerddol dros allu pob unigolyn i gyflawni ei botensial a’i uchelgais, ac i ddatblygu i fod yn aelod hapus, hyderus, annibynnol a chyfrifol o’i gymdeithas.

Yma, mae pob unigolyn yn cyfrif. Dathlwn fod pob unigolyn yn unigryw a bod pawb yn cael eu hannog i ffynnu’n academaidd, yn greadigol ac yn bersonol mewn awyrgylch Cymraeg clòs, gofalgar a chefnogol. Does neb yn cael ei adael ar ôl.

“Ym mhob llafur mae elw”. Ym Morgan Llwyd, cydweithiwn tuag at, a chyd-ddathlwn, ragoriaeth a llwyddiannau pob aelod o’n cymuned.  

Ein Gwerthoedd

Mae disgyblion Ysgol Morgan Llwyd yn ddysgwyr uchelgeisiol

  • Rydym yn parchu hawl pawb i ddysgu
  • Rydym yn barod i fentro a dyfalbarhau
  • Rydym yn falch o’n gwaith, o’n ysgol a’n gwlad

Mae disgyblion Ysgol Morgan Llwyd yn ddinasyddion da

  • Rydym yn gwrtais a charedig at bawb
  • Rydym yn gofalu ar ôl ein hysgol a’n gilydd
  • Rydym yn cymryd rhan ym mywyd yr ysgol

Cymraeg. Caredig. Cyfrifol.

 

Blaenoriaethau'r Ysgol

Dilynwch y ddolen isod i weld manylion blaenoriaethau ysgol 2023-24

 

 

Downloads