Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Celf a Dylunio

Croeso i’r Adran Gelf  

Yn Ysgol Morgan Llwyd mae celf yn cael ei addysgu i bob disgybl ym mlwyddyn 7, 8 a 9. Rydym yn cynnig cyfleoedd cyffrous ac mae’r dysgwyr yn cael cyfle i gynhyrchu gwaith ysgol. Mae celf yn cael ei addysgu yn unol a’r cwricwlwm cenedlaethol. Caiff disgyblion gyfle i ddatblygu eu gwybodaeth, dealltwriaeth a’u sgiliau creadigol. Anogir dysgwyr i: 

  • Ddatblygu eu sgiliau darlunio 
  • Arbrofi gyda chyfryngau a deunyddiau gwahanol gan gynnwys amrywiaeth o waith 2 a 3D 
  • Dadansoddi gwaith eu hunain a gwaith gan eraill 
  • Datblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogi gwaith artistiaid 

 

Gwybodaeth cyffredinol 

Blwyddyn 7 

Uned 1 – Elfennau Ffurfiol 

Uned 2 – Cymreictod 

Blwyddyn 

Uned 1 – Bywyd Llonydd  

Uned 2  - Portread  

Blwyddyn 9 

Un uned  - Uned Argraffu yn canolbwyntio ar y thema gwrthrychau mecanyddol 

Beth gallwch ei wneud i helpu: 

  • Annog eich plentyn i ymarfer eu sgiliau darlunio 
  • Prynu offer darlunio sylfaenolpensiliau darlunio, glud, pensiliau lliw, rhwbiwr a miniwr 
  • Sicrhau fod eich plentyn yn cwblhau eu tasgau gwaith cartref 

 

TGAU a Safon Uwch 

Celf a Dylunio 

Mae Celf yn ddewis poblogaidd i gyrsiau TGAU a Safon Uwch. Mae rhain yn gyrsiau prysur, bywiog a diddorol sydd yn ehangu ar yr hyn mae disgyblion wedi ei wneud yn CA3 ac yn cyflwyno disgyblion i fwy o sgiliau, prosesau a thechnegau mwy dwys. Rhoddir cyfle i ddisgyblion sefydlu sgiliau a gallu i fod yn ddysgwyr annibynnol sydd yn gweithio’n angerddol fel artistiad ifanc 

Ffotograffiaeth 

Rydym hefyd yn cynnig cwrs Safon Uwch Ffotograffiaeth sydd yn boblogaidd iawn. Caiff disgyblion gyfle i astudio hanes ffotograffiaeth, cyfansoddiad ac elfennau technolegol a’r grefft o ffotograffiaeth. Byddant wedyn yn gweithio i gyflwyno portffolio o waith ac ymateb yn bersonol i thema o’u dewis yn y flwyddyn gyntaf cyn ehangu ar hyn yn y ddwy uned yn yr ail flwyddyn fel myfyrwyr gweithgar ac annibynnol sydd gyda’r gallu a’r rhyddid i wneud penderfyniadau creadigol aeddfed a phwrpasol.