Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Astudiaethau Busnes

Croeso i’r Adran Fusnes 

Mae Astudiaethau Busnes yn gwrs dewisiol TGAU a Lefel A ar gyfer disgyblion 10,11,12 ac 13. 

Mae’r cwrs yn amrywiol a chyfredol. Mae’n bwnc hynod boblogaidd ac mae llawer o ddisgyblion sy’n dilyn y cwrs TGAU yn parhau i astudio’r cwrs i Safon Uwch.

Mae’r pwnc yn edrych ar:

  • Sut i ddechrau busnes 
  • Y Sgiliau sydd eu hangen 
  • Sut mae busnesau mawr yn gweithio 
  • Cyllid 
  • Gyfraith 
  • Hysbysebu 
  • Economeg 

Yn ogystal mae’n edrych ar sut mae’r byd tu allan yn effeithio ar fusnesau ac y cyhoedd. 

Mae’r adran wedi trefnu teithiau rheolaidd megis Llundain, Efrog Newydd ac Alton Towers ac yn edrych ar yr agweddau o fusnes.  Rydym hefyd yn ffodus i gael ymwelwyr gwadd megis perchnogion busnesau i siarad am eu profiadau. 

Gall y pwnc arwain at y gyrfaoedd canlynol yn y byd gwaith megis Cyfrifydd, Rheolwr, Economegydd, Maes Cyllid, Marchnata. 

Ffaith- Y pobl hynny sydd yn astudio busnes fel gradd yw’r rhai hynny sydd ar gyfartaledd yn ennill y cyflog mwyaf pan y 25ain oed.