Croeso

Mae Chweched Dosbarth Ysgol Morgan Llwyd yn cynnig ystod eang o bynciau astudio, cyfleoedd addysgiadol gwerthfawr a phrofiadau bywyd amrywiol i fyfyrwyr. Rydym yn cynnal safonau academaidd uchel sydd yn mynd law yn llaw gyda disgwyliadau uchel o ran ymddygiad ac ymroddiad. Dysgir y mwyafrif o wersi’r chweched yn yr adeilad newydd, pwrpasol sydd hefyd yn cynnwys gofod ymlacio ac ystafell waith.  

Mae canlyniadau Lefel A yr ysgol yn dda iawn ac yn gyson uwch na chanlyniadau cenedlaethol yn enwedig yn y graddau uwch. Un rheswm am y llwyddiant yma yw’r gefnogaeth a’r arweiniad da y caiff y myfyrwyr gan ein staff ymroddgar. Yn flynyddol mae mwyafrif o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i brifysgol. Mae cysylltiadau’r ysgol gyda phrifysgolion, cyflogwyr ac ymarferwyr proffesiynol hefyd yn cyfrannu at y llwyddiant yma. 

Mae myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 yn dilyn 3 chwrs lefel A fel rheol gydag ambell un yn dilyn 4. Bydd pob myfyriwr hefyd yn astudio Her Tystysgrif Sgiliau’r Fagloriaeth Genedlaethol.  Cynigir rhai cyrsiau mewn partneriaeth ag ysgolion eraill o dan y cynllun e-sgol.  

Mae mwy o wybodaeth ar gael am gyrsiau'r chweched ym mhrosbectws y chweched sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen isod. Yma, cewch bori trwy wybodaeth a fideos am gyrsiau ac am fywyd yn y Chweched Dosbarth. Er mwyn llywio i dudalennau uniongyrchol dewiswch y symbol yng nghornel waelod y dudalen.

 

PROSBECTWS Y CHWECHED DOSBARTH 2023-24

Ar ol i chi ddarllen trwy’r holl wybodaeth, os oes gennych chi gwestiwn mae croeso i chi wneud ymholiad drwy’r glicio ar y ddolen ganlynol:

CAIS AM FWY O WYBODAETH