Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Saesneg

Croeso i'r Adran Saesneg.

Ein gweledigaeth fel adran yw meithrin darllenwyr medrus a hyderus ac ysbrydoli’r rhai sy’n datblygu fel ysgrifenwyr mewn amgylchedd cefnogol.

Yng Nghyfnod Allweddol 3, anogir pob disgybl i ddarllen yn eang, i drafod, i archwilio, i ysgrifennu ac i feddwl yn annibynnol mewn gwersi rhyngweithiol a dengar. Yng Nghyfnod Allweddol 4, mae disgyblion yn astudio Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ar wahân, gan ymdrin ag ystod helaeth o destunau gan gynnwys barddoniaeth, drama, rhyddiaith, ffuglen a ffeithiol. Fe'u hanogir i gydnabod effaith hollbwysig cyfathrebu yn ysgrifenedig neu ar lafar, gan roi cyfle iddynt benderfynu ar gyfeiriad eu bywydau a’u dyfodol. Mae rhai myfyrwyr yn penderfynu parhau â'r daith yn astudio’r pwnc yng Nghyfnod Allweddol 5, ac yn dewis astudio Llenyddiaeth Saesneg UG/Safon Uwch.

Mae astudio Saesneg yn eich helpu i ddatblygu ystod eang o sgiliau sy'n bwysig mewn bywyd bob dydd ac yn fuddiol i gyflogwyr. Mae rhai o’r sgiliau hyn yn cynnwys y gallu i drafod, i feddwl yn annibynnol, i ysgrifennu a chyfathrebu’n effeithiol, i gyflwyno gwybodaeth yn drylwyr ac i weithio fel rhan o dîm.