
Gwybodaeth am Arholiadau
Arholiadau TGAU, UG a Lefel A Haf 2021
Mae Kirsty Williams, gweinidog addysg Cymru wedi cyhoeddi na fydd arholiadau TGAU, UG na Lefel A yn cael eu cynnal yn 2021. Yn lle hynny, bydd graddau yn cael eu dyfarnu ar sail Gradd a Bennir gan Ganolfan. Mae hyn yn golygu y bydd graddau'n cael eu pennu gan athrawon pwnc yr ysgol yn seiliedig ar asesiad o waith y dysgwr.
Rhwng rwan a'r haf, bydd athrawon yn parhau i ddysgu cymaint o gynnwys a sgiliau pynciol a phosibl i alluogi disgyblion i symud ymlaen yn eu haddysg yn llwyddiannus. Byddant hefyd yn cynnal asesiadau i ddod i farn deg am radd bob disgybl. Gall hyn gynnwys cynbapurau wedi'u haddasu i siwtio'r hyn sydd wedi ei addysgu; asesiadau ymarferol a gwaith cwrs. Does dim dyddiad cau i asesiadau diarholiad bellach, a gall gwaith cwrs gael ei ddefnyddio hyd yn oed os nad yw'n gwbl gyflawn.
"THE PARENTS' GUIDE TO..." (Cliciwch ar y Linc)
Dyma wefan wych sy’n cynnig adnoddau ardderchog y gallwch eu lawrlwytho i’ch helpu i weithio’n effeithiol (ac yn ddiogel) tuag at gymwysterau TGAU/Safon Uwch…yn ystod pandemig byd-eang!
Rydyn ni I GYD angen darllen y cyngor sydd yn eu llyfrynnau…!
Er bod yr adnodd yn cyfeirio at ysgolion Lloegr, ac er bod popeth yn Saesneg, mae’r canllawiau yn hollol berthnasol i ni yma yng Nghymru hefyd.