Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Taliadau Ar-lein

Nid yw Ysgol Morgan Llwyd yn derbyn taliadau arian parod. 

Rydym yn defnyddio ParentPay er mwyn eich galluogi i wneud taliadau di-arian ar gyfer cinio ysgol / teithiau ysgol neu eitemau.  

Gallwch dalu ar-lein trwy www.ParentPay.com neu, gydag arian parod, mewn siopau ‘PayPoint’ mewn siopau lleol a swyddfeydd post. Ni fyddwn yn derbyn taliadau gydag arian parod.  

Newydd i ParentPay?  

Sut i weithredu eich cyfrif ParentPay  

1. Ewch i www.parentpay.com 

2. Teipiwch yr enw defnyddiwr a’r cyfrinair a nodir uchod yn y llythyr gweithredu hwn, sicrhewch nad ydych yn cymysgu’r llythyren I (am Indigo) gyda’r rhif un (1) a’r rhif 0 (sero) gyda’r llythyren O (am Oscar). Mae’r manylion defnyddiwr yn sensitif i briflythrennau a llythrennau bach a gellir ond eu defnyddio unwaith. Byddant yn annilys ar ôl gweithredu’r cyfrif  

3. Cadarnhewch fod y manylion yn gywir a nodwch ddyddiad geni eich plentyn a chlicio confirm.  

4. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i weithredu’r cyfrif yn llwyddiannus.  

Bydd angen i chi nodi enw’ch plentyn, cyfeiriad e-bost cyfredol a dewis cyfrinair ar gyfer y cyfrif (eich cyfeiriad e-bost fydd eich enw defnyddiwr).  

Darllenwch delerau ac amodau ParentPay a chlicio’r blwch i'w derbyn ar waelod y dudalen yna clicio Activate account.  

Gallwch ychwanegu mwy nag un plentyn i’r un cyfrif ParentPay gan ddefnyddio’r botwm add a child ar eich hafan.  

Ychwanegwch y cyfeiriad hwn i’ch cysylltiadau yn eich e-bost platform@parentpay.com  

Yna anfonir e-bost gwirio atoch chi y defnyddiwr. Bydd angen i chi glicio ar y ddolen yn yr e-bost i gwblhau'r broses ac agor eich cyfrif.  

Os ydych angen unrhyw gymorth i osod eich cyfrif cysylltwch â’r gwasanaeth prydau ysgol ar  schoolmeals@wrexham.gov.uk 

Noder y bydd gwybodaeth yn cael ei anfon i rieni disgyblion bl 6 ar yr wythnos yn dechrau 26ain o Orffennaf, 2021.