Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Mathemateg

Croeso i’r Adran Fathemateg!

Mae pob disgybl yn dilyn cwrs mathemateg a rhifedd ym mlynyddoedd 7 i 11. Yn y cwrs mae disgyblion yn dysgu sut i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau mathemategol, ac yn cymhwyso’r dulliau hyn er mwyn datrys problem. Mae nifer o’r problemau yn ymwneud a’r ‘byd go iawn’. Mae hefyd amrywiaeth o gyfleoedd i ddisgyblion resymu’n rhifyddol a dod i'w casgliadau eu hunain ar sail y rhesymu hyn. 

Mae disgyblion yn gweithio tuag at ddau gymhwyster lefel T.G.A.U., sef Mathemateg a Mathemateg Rhifedd. Mae’r cymhwyster Mathemateg yn dangos gallu disgybl i feistrioli gweithdrefnau mathemategol. Mae’r cymhwyster Mathemateg Rhifedd yn dangos gallu disgybl i gymhwyso mathemateg er mwyn datrys problem ‘bob dydd’. Mae rhesymu mathemategol yn elfen hanfodol bwysig o’r ddau gymhwyster. 

Mae mathemateg yn arwain at amrywiaeth eang o swyddi, ac yn cael ei gymhwyso mewn rhyw ffordd yn y mwyafrif o swyddi. 

Mae cyfle i ddisgyblion sydd wedi astudio’r cwrs Haen Uwch yn llwyddiannus i astudio’r pwnc ymhellach yng nghyfnod allweddol 5.