Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Llythrennedd

Curriculum > Literacy

Mae datblygu sgiliau llythrennedd ein disgyblion yn hollbwysig. Nid dim ond yn y gwersi Cymraeg a Saesneg mae hyn yn digwydd, wrth gwrs, ond ar draws y cwricwlwm. Mae Miss Bethan Ellis, ein cydlynydd sgiliau yn cydweithio'n agos a'r athrawon i sicrhau bod digon o gyfleon i ddatblygu sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu ein disgyblion ym mhob pwnc.

I gyfoethogi'r gwaith hwn ymhellach, mae Miss Ellis wedi creu 'Llwyfan Llythrennedd' ar Google Sites. Ar y wefan wych hon fe ddewch o hyd i gyfoeth o adnoddau i gynorthwyo disgyblion, athrawon a rhieni gyda gwahanol agweddau ar lythrennedd. Mae yma bopeth o fatiau gyrfa i apiau defnyddiol; gemau gramadeg i awgrymiadau am lyfrau da i'w darllen. Bydd angen i ddisgyblion ddefnyddio eu cyfrif Hwb i gael mynediad i'r wefan, gellir ei chyrraedd drwy'r ddolen hon:

https://sites.google.com/hwbcymru.net/llwyfanllythrenneddymll/cartref