Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Iaith Dramor Fodern

Bonjour / Buenos días 

Croeso i'r Adran Ieithoedd Tramor Modern. 

Addysgir Ffrangeg yng nghyfnodau allweddol 3, 4 a 5 gan arbenigwyr pwnc. Cynigir cwrs TGAU Sbaeneg yng nghyfnod allweddol 4. Wrth astudio iaith dramor fodern, datblygir sgiliau llafaredd, darllen ac ysgrifennu. Datblygir hunanhyder, parch a goddefgarwch gan y dysgwr tuag at genhedloedd, gwledydd a diwylliannau eraill. 

 Yn ogystal ag addysgu’r ddwy iaith, rhoddir pwyslais ar ymestyn gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o ddiwylliannau Ffrainc a Sbaen ynghyd ag arferion a thraddodiadau gwledydd eraill y byd lle y siaredir Ffrangeg a Sbaeneg. Codir ymwybyddiaeth disgyblion o’r hyn sy’n gyffredin rhwng ieithoedd, boed hwnnw’n eirfa, gramadeg neu gystrawen. 

Trefnir taith addysgiadol a diwylliannol i ogledd Ffrainc yn flynyddol. Blwyddyn 8 yn bennaf sy’n cael y cyfle i ymuno â’r daith hon. Yn ystod y daith hon, bydd y disgyblion yn ymweld â mannau o ddiddordeb hanesyddol a diwylliannol pwysig, yn ymarfer eu Ffrangeg, yn blasu bwyd traddodiadol Ffrengig ac yn profi bywyd à la française.