Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Projectau blwyddyn 7

Ym Medi 2021, cyflwynwyd gwersi ‘Project’ i flwyddyn 7 fel cam tuag at y cwricwlwm newydd, Cwricwlwm i Gymru. Mae saith project wedi eu sefydlu yn cael eu dysgu gan diwtoriaid blwyddyn 7. Bydd y disgyblion yn symud i broject newydd bob pum wythnos.

Mae pob project yn canolbwyntio ar un o feysydd y cwricwlwm newydd sef:

  • Ieithoedd (Miss Ffion Thomas)
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg (Mr Gareth Parry)
  • Celfyddydau Perfformio (Mr Daniel Hughes)
  • Dyniaethau (Mr Sion Davies)
  • Iechyd a Lles (Mr Steffan Owen)
  • Rhifedd (Mr Aled Dodd)
  • Sgiliau Dysgu (Miss Bethan Ellis)

Prif bwrpas y projectau fydd datblygu SGILIAU’r disgyblion. Credwn yn gryf os ydym am i’n disgyblion lwyddo mewn cymwysterau megis TGAU ac am fod yn llwyddiannus pa bynnag lwybr y bont yn ei ddewis mewn bywyd, mae’n rhaid iddynt gael y sgiliau cywir i lwyddo. Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd cadarn ymysg y pwysicaf o’r rhain ac felly hefyd eu sgiliau llythrennedd digidol. Ond yn ogystal a’r rhain, mae sgiliau eraill sy’n hanfodol i lwyddo mewn addysg; dyfalbarhad, gwytnwch, datrys problemau, gweithio gydag eraill a gweithio’n annibynnol. O gael y sgiliau hyn yn eu lle, bydd gan y disgyblion sail gref i weithio arni wrth iddynt ddechrau arbenigo mewn pynciau a gweithio tuag at gymwysterau yn uwch i fyny’r ysgol.

Mae llawer o waith wedi mynd i greu’r projectau hyn; mae’r tiwtoriaid wedi defnyddio eu harbenigedd pynciol i greu project fydd yn llawn gweithgareddau hwyliog ac addysgiadol. Bydd teithiau a siaradwyr gwadd yn rhan o’r projectau a bydd pawb yn gweithio tuag at gyflawni cynnyrch terfynol fydd yn uchafbwynt i’r hanner tymor boed yn arddangosfa, cyflwyniad, fideo neu ddarn estynedig o ysgrifennu. Mae ein cydlynydd sgiliau, Miss Bethan Ellis hefyd wedi bod yn gweithio i sicrhau bod digon o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau a sicrhau cynnydd. Ni fydd lefelau yn cael eu gosod yn y projectau; bydd hyn yn digwydd yn y pynciau ‘traddodiadol’, yn hytrach byddwn yn gweithio ar asesu sgiliau a helpu disgyblion i adnabod eu cryfderau eu hunain a’u harwain ar sut i wneud cynnydd pellach.

Mawr obeithiwn y bydd y projectau newydd yn helpu blwyddyn 7 i setlo yn yr ysgol. Mae profiadau trosglwyddo o’r cynradd i’r uwchradd wedi bod yn gyfyng oherwydd Covid a chredwn y bydd y gwaith project yn debycach i’r profiadau maent wedi arfer eu cael yn y cynradd o weithio ar themâu. Bydd treulio 7 gwers gyda’u tiwtor – ar ben cyfnodau cofrestru – am yr hanner tymor cyntaf yn sicrhau ein bod yn dod i adnabod y disgyblion yn dda a darganfod a ydynt angen unrhyw gymorth ychwanegol. Bydd hefyd yn lleihau’r symud o gwmpas sy’n gallu bod yn flinedig a ‘stressful’ i ddisgyblion newydd. Yn bennaf oll, gobeithiwn y bydd y disgyblion yn mwynhau’r projectau ac o ganlyniad yn gweld ysgol ac addysg fel profiad positif a gwerthfawr. Am fwy o wybodaeth, dilynwch gyfrif trydar y prosiectau @sgiliauymll 

 

Manylion y projectau

Yn y prosiect Dyniaethau, bydd dysgwyr yn edrych ar brofiad ffoaduriaid sy’n symud i Wrecsam. Yn eu tasg derfynol byddan nhw’n ffilmio, cynhyrchu a golygu fideo yn adrodd yr hanes. 

 

Bydd y disgyblion yn ymarfer eu sgiliau goroesi yn y prosiect Iechyd a Lles gan edrych ar iechyd corfforol a meddyliol. Bydd Miri Mercher bob dydd Mercher yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau gwaith gr?p. 

 

Cawn ddatblygu ein sgiliau creadigol yn y prosiect Celfyddydau Mynegiannol, gan astudio sut mae unigolion yn gallu siapio hunaniaeth gwlad. Bydd cyfle i astudio unigolion enwog sydd o ddiddordeb a pherfformio cyflwyniad gwreiddiol amdanynt. 

 

Ymgyrch Llywodraeth Cymru o Filiwn o Siaradwyr Cymraeg fydd dan sylw yn y prosiect Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a bydd cyfle i ddisgyblion hybu dysgu Cymraeg drwy gynhyrchu gêm a gwefan wreiddiol. 

 

Sgiliau datrys problem fydd craidd y prosiect Gwyddoniaeth a Thechnoleg gyda phwyslais ar sut mae gwyddoniaeth fforensig yn ddefnyddiol er mwyn datrys problemau yn y gymdeithas. 

 

Yn olaf, ceir cyfle i ddatblygu sgiliau creadigol a rhifedd yn y prosiect Mathemateg a Rhifedd. Bydd her yn cael ei osod i ddisgyblion gynllunio a chyflwyno cynnyrch newydd sbon gan ystyried ymchwil marchnata a gwybodaeth ariannol. 

 

Gweler yr atodiadau am ragor o wybodaeth. 

Downloads