Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Cerddoriaeth

 Croeso i’r Adran Gerddoriaeth 

Mae pob disgybl ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 yn cael cyfle i astudio a datblygu sgiliau cerddorol am un wers yr wythnos. Prif nod y pwnc yw  ennyn diddordeb pob dysgwr a’u cymell i ddatblygu i’r eithaf eu sgiliau creadigol  ynghyd â’u sgiliau cerddorol drwy weithgareddau ymarferol sy’n cynnwys perfformio, byrfyfyrio a chyfansoddi, gwrando a gwerthuso. Fel rhan o’r pwnc, mae pob disgybl yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau perfformio a chyfansoddi ar yr allweddell ynghyd a pherfformio fel ensemble dosbarth neu grwpiau gydag offerynnau amrywiol yn wythnosol. Mae canu hefyd yn sgil sy’n cael ei feithrin yn y gweithgareddau hyn. Ynghyd â’r gwaith cyfansoddi, mae gan yr adran ystafell dechnoleg cerdd gyda gweithleoedd iMacs; rhydd hyn gyfle i ddatblygu sgiliau TGCH yn y maes hwn gyda meddalwedd Garage Band a Sibelius i gyfansoddi.  

Ynghyd â gwersi yn y dosbarth, mae’r adran yn weithgar yn gyson yn ystod y flwyddyn gyda gweithgareddau allgyrsiol sy’n meithrin sgiliau perfformio, chyfathrebu a hunan hyder y disgyblion. Fel rhan o gôr a phartion, rhoddir cyfle i ddisgyblion berfformio yn Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Llangollen, Sioeau cerdd a chyngherddau lleol elusennol. Mae cyfle i ddisgyblion ymuno â’r gweithgareddau beth bynnag eu profiadau blaenorol.  

O ran gwersi ychwanegol, mae cyfle i bob disgybl barhau neu gychwyn o’r newydd ar offeryn/ llais drwy ymgymryd â gwersi ar safle yr ysgol gyda Gwasanaeth Cerdd Cydwethredol Wrecsam. Mae’r gwersi hyn yn atgyfnerthu eu dysgu a datblygiad yn y pwnc ac yn cefnogi dewis cerdd fel pwnc astudio TGAU ym mlwyddyn 10 ac yna fel pwnc Safon Uwch ym mlwyddyn 12/13 .