Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Gwasanaethau Cyhoeddus

Cynigir cwrs BTEC Gwasanaethau Cyhoeddus ar Lefel 1 a 2 yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ar Lefel 3 yng nghyfnod Allweddol 5. Mae'n gwrs poblogaidd gan ei fod yn cynnig mewnwelediad i sector cyflogaeth sy'n bwysig iawn yma yn Wrecsam. O fewn y cwrs mae cyfle i edrych ar waith gwasanaethau cyhoeddus amrywiol, yn cynnwys rhai yn y sector gwirfoddol. Byddwn yn edrych ar egwyddorion pwysig fel amrywiaeth, cyfle cyfartal a delwedd y cyhoedd yn ogystal ag astudio rol arweinwyr o fewn timoedd. Mae unedau eraill yn edrych ar ffitrwydd ac mae llawer o'n disgyblion wedi mwynhau'r cyfle i gwblhau'r unedau hyn yng ngwersyll Glanllyn.