Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Cyflwyniad

CRYNODEB CWRICWLWM YSGOL MORGAN LLWYD

 

CYFLWYNIAD

Yn unol â Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, bydd Ysgol Morgan Llwyd yn cyflwyno’r cwricwlwm newydd, Cwricwlwm i Gymru, o fis Medi 2023 ymlaen. Bydd y cwricwlwm yn weithredol i flynyddoedd 7 ac 8 yn 2023-24 ac wedyn yn symud i flwyddyn 9 yn 2024-25, blwyddyn 10 yn 2025-26 a blwyddyn 11 yn 2026-27.

 

GWELEDIGAETH

Hanfod Cwricwlwm i Gymru yw sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn caffael addysg ac yn cael mynediad cyflawn at y profiadau, y wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw ym myd gwaith, ar gyfer dysgu gydol oes ac er mwyn bod yn ddinasyddion gweithredol. Mae pedwar diben yn greiddiol i’r Cwricwlwm, sef meithrin:

  • dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae hyn yn cyd-fynd a gweledigaeth yr ysgol i greu ‘cymuned falch, groesawgar sy’n angerddol dros allu pob unigolyn i gyflawni ei botensial a’i uchelgais, ac i ddatblygu i fod yn aelod hapus, hyderus, annibynnol a chyfrifol o’i gymdeithas.’

 

MEYSYDD DYSGU

Bydd yr ysgol yn darparu gwersi i ddisgyblion o fewn y Chwe Maes Dysgu a Phrofiad, sef:

-      Celfyddydau Perfformio

-      Iaith a Llythrennedd

-      Iechyd a Lles

-      Gwyddoniaeth a Thechnoleg

-      Mathemateg a Rhifedd

-      Y Dyniaethau

Bydd Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Addysg Grefyddol a Moeseg ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael eu dysgu o fewn y meysydd hyn yn ogystal â mewn sesiynau amser cofrestru a digwyddiadau achlysurol.

 

CWRICWLWM BLWYDDYN 7

Ym mlwyddyn 7, bydd disgyblion yn treulio 7 gwers yn chylchdroi rhwng projectau o fewn y chwe maes dysgu a phrofiad yn ogystal a 7fed project fydd yn canolbwyntio ar sgiliau a dysgu yn yr awyr agored. Ochr yn ochr a’r projectau, bydd disgyblion yn derbyn y gwersi canlynol:

  • Celfyddydau Perfformio – Celf (1), Cerdd (1)
  • Iaith a Llythrennedd – Cymraeg (3), Saesneg (3), Ffrangeg (2)
  • Iechyd a Lles – Addysg Gorfforol (2)
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg – Gwyddoniaeth (3), Technoleg (2)
  • Mathemateg a Rhifedd – Mathemateg (3)
  • Y Dyniaethau – Dyniaethau (3)

 

Meithrin sgiliau pynciol a thrawsgwricwlaidd yw prif bwrpas y gwersi hyn fel bod gan y disgyblion sail gadarn i adeiladu arni wrth fynd fyny’r ysgol.

 

CWRICWLWM BLWYDDYN 8

Ym mlwyddyn 8, bydd y gwersi project yn lleihau i 3 ac yn canolbwyntio ar elfennau Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Bydd gwersi o fewn y meysydd dysgu yn parhau i ddatblygu sgiliau pynciol a thrawsgwricwlaidd. Dysgir pynciau fel a ganlyn:

  • Celfyddydau Perfformio – Celf (2), Cerdd (1), Drama (1)
  • Iaith a Llythrennedd – Cymraeg (3), Saesneg (3), Ffrangeg (2)
  • Iechyd a Lles – Addysg Gorfforol (2)
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg – Gwyddoniaeth (3), Technoleg (2)
  • Mathemateg a Rhifedd – Mathemateg (4)
  • Y Dyniaethau – Dyniaethau (4)

 

CWRICWLWM BLWYDDYN 9

Nid oes gwersi project ym mlwyddyn 9. Bydd un wers lles ar yr amserlen i roi sylw i agweddau o faes Iechyd a Lles, addysg cydberthynas a rhyw a sgiliau llythrennedd digidol. Bydd gwersi o fewn y meysydd dysgu a phrofiad yn canolbwyntio’n gynyddol ar ddisgyblaethau unigol er mwyn pontio a pharatoi disgyblion ar gyfer cyrsiau TGAU. Bydd disgyblion blwyddyn 9 yn dewis eu hopsiynau TGAU yn ystod yr ail dymor ac yn dechrau ar y cyrsiau yn ail hanner tymor tri.

 

  • Celfyddydau Perfformio – Celf (2), Cerdd (1), Drama (1)
  • Iaith a Llythrennedd – Cymraeg (4), Saesneg (3), Ffrangeg (2)
  • Iechyd a Lles – Addysg Gorfforol (2), Lles (1)
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg – Gwyddoniaeth (3), Technoleg (2)
  • Mathemateg a Rhifedd – Mathemateg (4)
  • Y Dyniaethau – Hanes (2), Daearyddiaeth (2), Addysg Grefyddol (1)

 

CWRICWLWM BLWYDDYN 10 AC 11

Ym mlwyddyn 10 ac 11, bydd disgyblion yn dilyn pynciau TGAU craidd (Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth, Saesneg Iaith a Llenyddiaeth, Mathemateg, Gwyddoniaeth a’r Fagloriaeth Gymreig) a thri phwnc opsiwn. Cynigir pynciau amgen i rai disgyblion megis cyrsiau cyllid, Llwyddo a’r Prince’s Trust yn y Fenter.

CWRICWLWM BLWYDDYN 12 A 13

Bydd disgyblion sy’n dewis aros i chweched dosbarth yr ysgol yn dilyn tri phwnc Lefel A (weithiau bedwar) a’r Fagloriaeth Gymreig.

 

 

TREFNIADAU ASESU

Bydd lefelau diwedd cyfnodau allweddol yn darfod gyda dyfodiad Cwricwlwm i Gymru a chyfrifoldeb yr ysgol fydd penderfynu ar, a gweithredu ei dull asesu ei hun. Wrth asesu tasgau ym mlwyddyn 7 ac 8, bydd athrawon yn rhoi gradd ymdrech (A-Ch) i’r disgybl a gradd llwyddiant (1-4) yn dibynnu ar safon y sgiliau pynciol sy’n cael eu hamlygu yn y dasg.

 

Gradd Ymdrech

 

Gradd Llwyddiant

A = Ymdrech ardderchog

1 = Safonau pynciol uchel iawn

B = Ymdrech dda

2 = Safonau pynciol uchel

C = Ymdrech foddhaol

3 = Safonau pynciol isel

CH = Dim digon o ymdrech

4 = Safonau pynciol isel iawn

 

Bydd yr un system ar waith ym mlwyddyn 9 ond bydd y graddau llwyddiant yn gynyddol gyd-fynd â disgrifiadau graddau TGAU er mwyn pontio rhwng y ddau gyfnod. Ochr yn ochr â’r asesiadau pynciol, bydd disgyblion yn sefyll cyfres o brofion allanol megis y profion darllen a rhif cenedlaethol a phrofion sgiliau MIDyis neu CATs. Ym mlwyddyn 9, bydd canlyniadau’r profion hyn yn cael eu defnyddio i lunio targedau TGAU cychwynnol fel sail i’r targedau pynciol fydd yn cael eu cadarnhau yn nhymor cyntaf blwyddyn 10.

Bydd graddau TGAU, Lefel A a chymwysterau eraill yn cael eu dyfarnu yn unol â chynlluniau marcio’r byrddau arholi.

 

POLISI IAITH

Mae Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg a chan hynny, Cymraeg yw cyfrwng iaith addysgu pob pwnc ac eithrio gwersi Saesneg. Bydd rhai cyrsiau gan ddarparwyr allanol megis Coleg Cambria a’r Fenter yn cael eu dysgu drwy’r Saesneg. Bydd disgyblion sy’n ymuno â’r ysgol drwy’r cynllun Trochi yn cael eu dysgu ar wahân tan y byddant yn hyderus i ymuno â’r brif ffrwd, fel arfer ar ddechrau blwyddyn 8.

 

Downloads