Drama
Croeso i’r Adran Ddrama!
Mae pob disgybl ym mlynyddoedd 8 a 9 yn cael cyfle i astudio’r pwnc gan edrych ar amrywiaeth o bynciau gwahanol gyda’r ffocws ar greu, perfformio a gwerthuso eu gwaith. Mae Drama yn ddewis poblogaidd ar gyfer cyrsiau TGAU a Safon Uwch ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddatblygu hyder a sgiliau fydd o ddefnydd wrth baratoi am yrfa yn y celfyddydau ac yn bwysicach fyth yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
Mae cyfle i ddisgyblion ddysgu tu allan y dosbarth hefyd drwy weithdai gan ymarferwyr gwadd a thripiau i'r theatr. Gall astudio Drama arwain at nifer eang o lwybrau gyrfau, o actorion i gyflwynwyr teledu /radio, o waith cysylltiadau cyhoeddus i gyfreithwyr.