Canlyniadau UG / Lefel A
17/07/26Bydd yr ysgol ar agor ar y 13eg o Awst, rhwng 8am ac 11am er mwyn i ddisgyblion blynyddoedd 12 a 13 gasglu canlyniadau Uwch Gyfrannol a Lefel A. Bydd canlyniadau blwyddyn 13 yn ymddangos ar Go4Schools ar ol 2pm. Os ydych ym mlwyddyn 13 a methu dod i nol eich canlyniadau, mae croeso ichi ebostio neu ffonio. Os ydych ym mlwyddyn 12 a methu dod i nol eich canlyniadau, byddwch yn eu derbyn yn ol yn yr ysgol Fis Medi.





