Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Athro / athrawes Addysg Gorfforol

Yn dilyn secondiad aelod o'r adran, rydym yn chwilio am athro / athrawes i ymuno a'r Adran Addysg Gorfforol am flwyddyn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu blynyddoedd 7-11 yn bennaf gyda'r posibilrwydd o addysgu TGAU a / neu Lefel A yn ddibynnol ar brofiad a chymwysterau. Mae hon yn Adran boblogaidd a llwyddiannus a bydd disgwyl i'r sawl a benodir gyfrannu i glybiau a gweithgareddau allgyrsiol yr adran. 

Mae hon yn swydd llawn amser,  i ddechrau o fis Medi 2026. Mae manylion pellach i'w gweld yn y pecyn swydd ac mae croeso i ymgeiswyr gysylltu a'r ysgol am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad drwy ebostio'r Rheolwr Busnes, Rhian Owen ar [email protected] neu ffonio 01978 315050.

Dylid gwneud cais drwy wefan Cyngor Wrecsam erbyn 10am ddydd Gwener, 15/5/26.


Downloads