Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Athro / athrawes blynyddoedd 7 ac 8 (Cyfnod mamolaeth)

Chwiliwn am athro neu athrawes egniol a gweithgar i addysgu dosbarthiadau blwyddyn 7 ac 8. Bydd hyn yn cynnwys tri dosbarth Cymraeg blwyddyn 8, gwersi lles i flwyddyn 7 a gwersi project i flwyddyn 8.

Mae hon yn swydd llawn amser i ddechrau o fis Medi 2026, tan o leiaf Gorffennaf 2027.

Mae manylion pellach i'w gweld yn y pecyn swydd ac mae croeso i ymgeiswyr gysylltu a'r ysgol am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad drwy ebostio'r Rheolwr Busnes, Rhian Owen ar [email protected] neu ffonio 01978 315050.

Dylid gwneud cais drwy wefan Cyngor Wrecsam cyn gynted a phosibl. 


Downloads