Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Athro / athrawes Cymraeg a Chelf

Wrth i'r ysgol dyfu, rydym yn chwilio am athro / athrawes gweithgar a brwdfrydig i ymuno a'r tim. Rydym yn chwilio am berson i ddysgu Cymraeg a Chelf gyda nifer eithaf hafal o wersi yn y ddau bwnc am y flwyddyn gyntaf, er y gallai hynny newid yn y dyfodol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ddysgu eu pwnc arbenigol i ystod o oedrannau, o flwyddyn 7 i 11, a'r pwnc y mae ganddynt leiaf o arbenigedd ynddo i flynyddoedd 7 ac 8 yn bennaf. Mae'r ddwy adran yn rhai llwyddiannus a gweithgar a bydd pob cymorth a chefongaeth yn cael ei roi. 

Mae hon yn swydd llawn amser, barhaol. Mae manylion pellach i'w gweld yn y pecyn swydd ac mae croeso i ymgeiswyr gysylltu a'r ysgol am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad drwy ebostio'r Rheolwr Busnes, Rhian Owen ar [email protected] neu ffonio 01978 315050.

Dylid gwneud cais drwy wefan Cyngor Wrecsam erbyn 10am ddydd Gwener, 15/5/26.


Downloads