Athro / Athrawes Cymraeg (cyfnod mamolaeth) AIL HYSBYSEB
Chwiliwn am athro neu athrawes egniol a gweithgar i addysgu Cymraeg fel pwnc yn ystod absenoldeb mamolaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am addysgu'r pwnc i ddisgyblion o flynyddoedd 7-11.
Mae hon yn swydd llawn amser i ddechrau o fis Medi 2026 ac i orffen ddiwedd Rhagfyr, 2026.
Mae manylion pellach i'w gweld yn y pecyn swydd ac mae croeso i ymgeiswyr gysylltu a'r ysgol am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad drwy ebostio'r Rheolwr Busnes, Rhian Owen ar [email protected] neu ffonio 01978 315050.
Dylid gwneud cais drwy wefan Cyngor Wrecsam erbyn 10am ddydd Mercher, 10/6/26. Athro / Athrawes Cymraeg - Ysgol Morgan Llwyd in - Wrexham County Borough Council - Welsh






