Canllawiau Dysgu o Bell - Ysgol Morgan Llwyd
01/05/20Dysgu o Bell yn Ysgol Morgan Llwyd
Annwyl Ddisgyblion
Dim ond nodyn bach gan eich athrawon yn Ysgol Morgan Llwyd i ddweud ein bod yn meddwl amdanoch ac yn gobeithio eich bod yn cadw’n iawn. Mae’r sefyllfa yn un anodd iawn ac mae hi’n deimlad rhyfedd nad ydym yn cael eich gweld chi’n rheolaidd.
Rydym yn gobeithio bod popeth yn mynd yn iawn gyda’r gwaith ar Google Classroom ond, os ddim, peidiwch a bod ofn cysylltu â ni. Mae hwn yn beth newydd i ni hefyd ac felly rydym ni i gyd yn dysgu! Mae rhai ohonoch wedi bod mewn cysylltiad yn dweud eich bod yn teimlo bod gormod o waith yn cael ei osod ac felly rydym wedi cynllunio amserlen enghreifftiol y gallwch ei defnyddio os ydych eisiau. Dyma ychydig o bwyntiau i chi ystyried:
- Mae’r adnoddau a’r cyfarwyddiadau ar gyfer ar Google Classrooms.
- Disgyblion Blwyddyn 7,8 a 9 – nid ydym angen unrhyw waith pellach ar y tasgau Sgiliau. Dyliech nawr fod yn gweithio ar eich pynciau unigol.
- Dylech dreulio tua 3 awr ar waith ysgol bob dydd. Gallech ddefnyddio’r amserlen enghreifftiol, gwnewch eich gorau i weithio drwyddo. Nid yw’n hanfodol cwblhau popeth. Cwblhewch y gweithgareddau ar adeg sy’n gyfleus i chi a’ch teulu.
- Cofiwch ddilyn cynllun dyddiol ar gyfer eich gweithgareddau lles, corfforol a chymdeithasol. Mae amser personol ar gyfer ymlacio’n bwysig.
- Os ydych angen siarad gydag aelod o staff yn yr Hwb ffoniwch neu gyrrwch neges destyn i 07956351448 .
- Mwynhewch y gweithgareddau!
Plis peidiwch a phoeni am yr holl dasgau nac am yr holl ddyddiadau i gwblhau bob un erbyn. Y peth pwysig yw eich bod chi’n gwneud eich gorau ac yn trefnu amserlen gwaith sydd yn gweddu i chi. Os ydych chi angen mwy o amser i orffen gwaith yna mae hynny’n iawn gennym ni. Y peth pwysicaf yw eich bod chi’n cymryd gofal ohonoch chi’ch hunain yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Cadwch yn ddiogel.
Annwyl rhieni a gofalwyr
Ynghanol sefyllfa mor unigryw rydym yn ymwybodol fod nifer ohonoch yn pryderu am addysg eich plant. Mae rhai rhieni yn cysylltu i ddweud nad oes digon o waith yn cael ei osod a rhai eraill yn cysylltu i ddweud fod gormod o waith yn cael ei osod. Cofiwch fod addysg statudol wedi dod i ben dros dro yng Nghymru ar Mawrth 20 felly nid oes rheolau cadarn ynglyn â beth a faint yn union ddylie plant fod yn ei wneud.
Gobeithio bod eich plant yn deall sut i ddefnyddio Google Classroom bellach ond os ddim, peidiwch a bod ofn cysylltu â ni. Mae hwn yn newydd i ni hefyd ac felly rydym ni i gyd yn dysgu! Bwried y ddogfen yma yw cynnig awgrym o amserlen ar gyfer y rhai hynny sydd yn ei chael yn anodd ymdopi gyda’r ffordd newydd yma o ddysgu. Dyma ychydig o bwyntiau i chi ystyried:
- Cefnogwch a rhowch sicrwydd i’ch plentyn. Nid ydym yn disgwyl i chi fod yn athrawon! Mae’r gwaith sydd yn cael ei osod yn addas ar gyfer eich plentyn. Sgiliau hanfodol bwysig ar gyfer llwyddiant yw gweithio’n annibynnol, dygnwch a datrys problemau – ceisiwch annog eich plentyn i ddal ati gyda unrhyw waith.
- Mae’r holl waith ar gael ar Google Classroom. Dylai popeth sydd ei angen ar eich plentyn fod ar Google Classroom ond gellir cysylltu â’r athrawon am arweiniad pellach.
- Nid oes angen rhoi sylw i bob pwnc bob dydd. Fe allwch chi a’ch plentyn ddefnyddio’r amserlen a awgrymir os yw trefn ddyddiol yn helpu. Gellir cwblhau’r tasgau ar amser sy’n gyfleus i chi a’ch teulu a’ch ymrwymiadau gwaith.
- Anogwch eich plentyn i ddilyn y cynllun dyddiol ar gyfer gweithgareddau lles, corfforol a chymdeithasol a’ch helpu chi yn y t?!
- Os ydych angen cefnogaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiwn, eich cyswllt yn yr ysgol yw’r Pennaeth Blwyddyn (drwy e-bost – gweler isod)
- Cofiwch fod Diogelwch Ar-lein yn bwysig. Os am ragor o wybodaeth neu os ydych yn poeni cysylltwch gyda’r ysgol.
- Mae gwybodaeth pellach ar ddysgu o bell ar gyfer rhieni ar gael drwy blatfform hwb – www.hwb.gov.wales
Yn olaf cofiwch ein bod yma i’ch cefnogi. Mae staff y swyddfa yn yr ysgol pob diwrnod rydym ar agor. Os ydych angen cyngor/cymorth ar frys gallwch naill ai ebostio’ch Pennaeth Blwyddyn (cyfeiriadau ebost isod) neu ffonio 07956351448.
Blwyddyn 7 - hughesj569@hwbcymru.net neu catheralld2@hwbcymru.net |
Blwyddyn 8 - shielm@hwbcymru.net |
Blwyddyn 9 - morriss204@hwbcymru.net |
Blwyddyn 10 - derbyshiret2@hwbcymru.net |
Blwyddyn 11 - phillipsg91@hwbcymru.net (hefyd unrhyw broblemau yn defnyddio Google Classrooms) |
Blwyddyn 12 - stanfordh@hwbcymru.net |
Diolch i chi a cadwch yn ddiogel.
Lles a Chorfforol |
Pynciau Ysgol |
Amser cymdeithasu ac ymlacio |
Ceisiwch gadw at y camau yma yn ddyddiol :
Dewiswch ddau o’r rhain:
https://www.youtube.com/channel/UCAxW1XT0iEJo0TYlRfn6rYQ
|
Cwblhewch y tasgau a osodwyd gan eich athro ar Google Classrooms.
Blwyddyn 7 a 8 Dewiswch ddau o’r rhain yn ddyddiol:
Dewisiwch un o’r rhain yn ddyddiol:
Blwyddyn 9 a 10 Dewisiwch ddau o’r rhain yn ddyddiol:
Dewisiwch un o’r rhain yn ddyddiol:
|
Dewiswch ddau o’r rhain:
Gall gynnwys:
|
Enghraifft o amserlen bythefnosol Blwyddyn 7 a 8
Dydd Llun Wythnos 1 |
Lles a Chorfforol Dewiswch ddau weithgaredd |
Cymraeg |
Mathemateg |
Hanes |
Amser cymdeithasu ac ymlacio Dewiswch ddau weithgaredd |
Dydd Mawrth Wythnos 1 |
Lles a Chorfforol Dewiswch ddau weithgaredd |
Saesneg |
Gwyddoniaeth |
Celf |
Amser cymdeithasu ac ymlacio Dewiswch ddau weithgaredd |
Dydd Mercher Wythnos 1 |
Lles a Chorfforol Dewiswch ddau weithgaredd |
Cymraeg |
Mathemateg |
Ffrangeg |
Amser cymdeithasu ac ymlacio Dewiswch ddau weithgaredd |
Dydd Iau Wythnos 1 |
Lles a Chorfforol Dewiswch ddau weithgaredd |
Saesneg |
Gwyddoniaeth |
Dylunio a Thechnoleg |
Amser cymdeithasu ac ymlacio Dewiswch ddau weithgaredd |
Dydd Gwener Wythnos 1 |
Lles a Chorfforol Dewiswch ddau weithgaredd |
Cymraeg |
Mathemateg |
Addysg Grefyddol |
Amser cymdeithasu ac ymlacio Dewiswch ddau weithgaredd |
Dydd Llun Wythnos 2 |
Lles a Chorfforol Dewiswch ddau weithgaredd |
Saesneg |
Gwyddoniaeth |
Daearyddiaeth |
Amser cymdeithasu ac ymlacio Dewiswch ddau weithgaredd |
Dydd Mawrth Wythnos 2 |
Lles a Chorfforol Dewiswch ddau weithgaredd |
Cymraeg |
Mathemateg |
Cerdd |
Amser cymdeithasu ac ymlacio Dewiswch ddau weithgaredd |
Dydd Mercher Wythnos 2 |
Lles a Chorfforol Dewiswch ddau weithgaredd |
Saesneg |
Gwyddoniaeth |
Drama |
Amser cymdeithasu ac ymlacio Dewiswch ddau weithgaredd |
Dydd Iau Wythnos 2 |
Lles a Chorfforol Dewiswch ddau weithgaredd |
Cymraeg |
Mathemateg |
Addysg Gorfforol |
Amser cymdeithasu ac ymlacio Dewiswch ddau weithgaredd |
Dydd Gwener Wythnos 2 |
Lles a Chorfforol Dewiswch ddau weithgaredd |
Saesneg |
Gwyddoniaeth |
Gorffen unrhyw waith |
Amser cymdeithasu ac ymlacio Dewiswch ddau weithgaredd |
Enghraifft o amserlen bythefnosol Blwyddyn 9 a 10
Dydd Llun Wythnos 1 |
Lles a Chorfforol Dewiswch ddau weithgaredd |
Cymraeg |
Mathemateg |
Opsiwn A |
Amser cymdeithasu ac ymlacio Dewiswch ddau weithgaredd |
Dydd Mawrth Wythnos 1 |
Lles a Chorfforol Dewiswch ddau weithgaredd |
Saesneg |
Gwyddoniaeth |
Opsiwn B |
Amser cymdeithasu ac ymlacio Dewiswch ddau weithgaredd |
Dydd Mercher Wythnos 1 |
Lles a Chorfforol Dewiswch ddau weithgaredd |
Cymraeg |
Mathemateg |
Opsiwn C |