
Canllawiau mygydau newydd
24/11/20Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd (23/11/20) ynglyn a'r defnydd o fygydau mewn ysgolion uwchradd. Mae disgyblion a staff yr ysgol eisoes yn gwisgo mygydau ar goridorau a thrafnidiaeth ysgol. Unwaith y byddwn wedi cael cadarnhad o ofynion y canllawiau newydd, byddwn yn anfon llythyr at rieni. Yn y cyfamser, hoffem atgoffa rhieni i sicrhau bod eu plant yn dod a mwgwd efo nhw i'r ysgol bob dydd.