
Canslo arholiadau 2021
10/11/20Mae Kirsty Williams, gweinidog addysg Cymru wedi cyhoeddi heddiw (10/11/20) na fydd arholiadau TGAU, UG na Lefel A yn cael eu cynnal yn 2021. Dywedodd y byddai graddau’r myfyrwyr yn seiliedig ar asesiadau allanol ac asesiadau dan reolaeth fewnol.
Bwriad y Llywodraeth yw defnyddio asesiadau a fydd yn cael eu gwneud dan oruchwyliaeth athrawon fel sail i ganlyniadau. Bydd yr asesiadau hyn yn cael eu gosod a’u marcio’n allanol a byddant yn debygol o ddechrau yn ail hanner tymor y gwanwyn gyda rhyddid i ysgolion ddewis amser fyddai’n gweddu i’w cynnal.
Ar hyn o bryd, nid yw ysgolion wedi derbyn mwy o fanylion na’r hyn sydd yn y wasg ac felly mae llawer o gwestiynau i’w hateb, er enghraifft:
- Beth fydd natur yr asesiadau; fyddan nhw’n canolbwyntio ar elfennau o’r cwrs neu’n cwmpasu’r cyfan? Fydd dewis o asesiadau ar gael? Sawl asesiad fydd angen ar gyfer pob pwnc?
- Faint o ystyriaeth fydd yn cael ei roi i dasgau gwaith dosbarth, asesiadau a phrofion sydd wedi eu cynnal a’u marcio yn y dosbarth?
- Faint fydd gwaith cwrs neu waith ymarferol yn cyfrannu at radd disgyblion?
- Fydd arholiadau allanol mis Ionawr yn cael eu cynnal?
- Beth fydd yn digwydd yn achos disgyblion blwyddyn 10 a 12? Fydd y trefniadau’r un fath ag oeddent yn 2020? Fydd disgwyl iddyn nhw wneud asesiadau allanol hefyd?
- Beth fydd yn digwydd yn achos cyrsiau galwedigaethol?
Addewid y Gweinidog yw y bydd y pethau hyn yn cael eu trafod a’u penderfynu ym mis Rhagfyr gyda’r bwriad o rannu canllawiau a deunyddiau ategol i ysgolion yn nechrau tymor y gwanwyn. Fe fyddwn, fel ysgolion eraill, yn pwyso ar y Llywodraeth i roi arweiniad a chanllawiau mor fuan a phosibl fel y gallwn gynllunio trefniadau asesu; dyddiadau cyflwyno gwaith cwrs a ffug arholiadau mewnol cyn gynted ag y bo modd.
Byddwn yn cyfarfod gyda holl ddisgyblion blwyddyn 11 fory er mwyn rhannu gwybodaeth ac ateb cwestiynau a bydd Mrs Stanford yn gweld pawb yn y chweched dosbarth. Byddwn hefyd yn rhoi diweddariad i ddisgyblion, a chithau fel rhieni, pan fydd mwy o wybodaeth yn dod i law gan y llywodraeth a chan fwrdd arholi CBAC. Yn y cyfamser byddwn yn bwrw ati i weithio drwy’r manylebau diwygiedig a chynnal safon uchel o addysgu a dysgu.