
Canslo Asesiadau Mewnol
08/01/21Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw y bydd ysgolion yn aros ar gau tan hanner tymor Chwefror onibai y bydd gostyngiad 'arwyddocaol' yn nifer yr achosion Covid erbyn y 29ain o Ionawr, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi na fydd asesiadau mewnol ar gyfer TGAU, UG a Lefel A, y bwriadwyd eu cynnal rhwng 22 Chwefror a 23 Ebrill, yn digwydd. Bydd trefniadau newydd yn cael eu gwneud a byddwn yn cysylltu’n benodol a rhieni 11-13 pan gawn wybod beth fydd ‘y trefniadau newydd’.
Am ragor o fanylion, gweler y llythyr i fyfyrwyr gan Cymwysterau Cymru yn yr adran 'Llythyrau' o'r wefan.