
Diwrnod Canlyniadau
15/07/21Bydd croeso i fyfyrwyr blwyddyn 12 a 13 ddod i nol eu canlyniadau UG / Uwch rhwng 9 a 10.30am ar y 10fed o Awst. Bydd Mrs Stanford a'r Uwch Dim Rheoli ar gael i helpu gydag unrhyw ymholiadau.
Bydd croeso i fyfyrwyr blwyddyn 11 ddod i nol eu canlyniadau TGAU rhwng 9 a 11am ar y 12fed o Awst. Bydd Mrs Stanford a'r Uwch Dim Rheoli ar gael i helpu gydag unrhyw ymholiadau. Bydd cyfle i fyfyrwyr sydd am ddychwelyd i chweched dosbarth yr ysgol dderbyn cyngor pellach a chofrestru ar gyfer Medi neu fe allant gofrestru ar lein, gweler adran y chweched ar wefan yr ysgol am fwy o fanylion.