
Graddau TGAU, UG a Lefel A 2021
20/01/21Cyhoeddwyd heddiw y bydd graddau TGAU, UG a Lefel A 2021 yn cael eu dyfarnu ar sail Gradd a Bennir gan Ganolfan. Mae hyn yn golygu y bydd graddau'n cael eu pennu gan athrawon pwnc yr ysgol yn seiliedig ar asesiad o waith y dysgwr.
Rhwng rwan a'r haf, bydd athrawon yn parhau i ddysgu cymaint o gynnwys a sgiliau pynciol a phosibl i alluogi disgyblion i symud ymlaen yn eu haddysg yn llwyddiannus. Byddant hefyd yn cynnal asesiadau i ddod i farn deg am radd bob disgybl. Gall hyn gynnwys cynbapurau wedi'u haddasu i siwtio'r hyn sydd wedi ei addysgu; asesiadau ymarferol a gwaith cwrs. Does dim dyddiad cau i asesiadau diarholiad bellach, a gall gwaith cwrs gael ei ddefnyddio hyd yn oed os nad yw'n gwbl gyflawn.
Yr hyn sy'n bwysig ar hyn o bryd, felly, yw bod ein disgyblion yn parhau i fynychu gwersi arlein er mwyn datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau pynciol. Mae ymroddiad y mwyafrif wedi bod yn wych, a gobeithio y bydd hyn yn parhau gyda'r sicrwydd y byddant yn derbyn graddau fydd yn adlewyrchu eu hymdrech a'u gallu yn yr haf.