
Meddalwedd iaith ar gael am ddim i helpu gydag addysgu a gweithio gartref
02/06/20Mae Cysgliad, pecyn meddalwedd sy'n cynnwys gwirydd iaith a gramadeg Cymraeg, yn awr ar gael
i'w lwytho i lawr am ddim yn sgil partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru.
O heddiw ymlaen, gall unigolion, ysgolion a sefydliadau sy'n cyflogi llai na 10 o bobl lwytho'r
pecyn i lawr a'i ddefnyddio am ddim. Daw hyn fel rhan o becyn o gefnogaeth i helpu plant a'u teuluoedd, a'r cyhoedd yn gyffredinol, i
ddefnyddio'r Gymraeg wrth weithio gartref yn ystod yr argyfwng presennol.
I lwytho Cysgliad i lawr am ddim, ewch i www.Cysgliad.com
Mae Cysgliad yn rhedeg ar ddyfeisiadau Windows 7, 8 a 10. Gall defnyddwyr MacOS a Linux
ddefnyddio adnoddau ar-lein sydd ar gael ar wefan Cysgliad.