
Problemau staffio 8fed - 15fed o Hydref
08/10/20Rydym yn profi anawsterau mawr gyda staffio ar hyn o bryd. Gyda chynifer o staff yn absennol, mae’n amhosibl agor yr ysgol yn llawn ar y funud. O ganlyniad, byddwn yn gofyn i rai grwpiau blwyddyn aros adref i weithio o gartref ar y dyddiau canlynol:
Dydd Iau 08/10/20 – Blwyddyn 7 yn hunanynysu. Blwyddyn 10 i weithio o gartref.
Dydd Gwener 09/10/20 – Blwyddyn 7 yn hunanynysu. Blwyddyn 10 i weithio o gartref.
Dydd Llun 12/10/20 – Blwyddyn 7 yn hunanynysu. Blwyddyn 8 i weithio o gartref.
Dydd Mawrth 13/10/20 – Blwyddyn 7 yn hunanynysu. Blwyddyn 8 i weithio o gartref.
Dydd Mercher 14/10/20 – Blwyddyn 7 yn hunanynysu. Blwyddyn 9 i weithio o gartref.
Dydd Iau 15/10/20 – Blwyddyn 7 yn hunanynysu. Blwyddyn 9 i weithio o gartref.
Byddwn yn ailasesu’r sefyllfa mewn wythnos ac yn rhoi gwybod ichi am unrhyw newidiadau angenrheidiol. Byddwch yn ymwybodol y gallai unrhyw achos newydd o Covid olygu newid i’r uchod. Gwerthfawrogwn eich cydweithrediad yn y cyfnod heriol hwn.