
Sesiynau carlam esgol
22/02/21Please scroll down for English
Bydd Esgol Cymru yn darparu sesiynau carlam ar ol ysgol i helpu myfyrwyr bl 11,12, a 13 sydd wedi colli addysg oherwydd y pandemig. Bydd y sesiynau yn rhedeg am bedair wythnos, trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, gan ddechrau ar ddydd Llun 1af o Fawrth. Bydd y sesiynau yn digwydd ar ôl ysgol.
Bydd y sesiynau / gweminarau hyn yn cael eu darlledu trwy ddigwyddiad byw ar Microsoft Teams ac yn cael eu hwyluso gan athrawon o bob rhan o Gymru sydd ag arbenigedd yn y pwnc y byddan nhw’n ei gyflwyno. Bydd y sesiynau a gyflwynir yn cael eu recordio a gellir eu defnyddio yn ddiweddarach. Bydd y disgyblion yn gyfrifol am gael mynediad i'r wefan er mwyn clicio ar y dolenni perthnasol i ymuno â'r sesiynau.
Am ragor o wybodaeth gan gynnwys pryd y cynhelir y sesiynau, ewch i'r wefan ganlynol -
https://sites.google.com/hwbcymru.net/cyrsiaucarlamcymru