
Trefniadau dychwelyd disgyblion i'r ysgol ar y 15fed o Fawrth
03/03/21Bore ma, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y canllawiau ar gyfer dychwelyd disgyblion uwchradd i'r ysgol ar y 15fed o Fawrth. Bydd y ffocws ar ddychwelyd disgyblion mewn blynyddoedd arholiad i'r ysgol (11 ac 13) ond bydd cyfle hefyd i ddisgyblion eraill gael 'check in' lles cyn dychwelyd yn llawn ar ol gwyliau'r Pasg.
Rydym wrthi'n astudio'r canllawiau a gwneud penderfyniadau o ran yr hyn fyddai orau ar gyfer lles ac addysg ein disgyblion. Rydym hefyd yn aros am ganllawiau pellach o ran rhoi profion Covid i ddisgyblion bl 10 i fyny. Byddwn yn anfon llythyr pellach gyda manylion llawn cyn diwedd yr wythnos hon.