
Trefniadau dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi 2020 (fel ag y maent ar hyn o bryd)
17/07/20Annwyl riant / warchodwr
Yn y lle cyntaf, hoffwn ddiolch i ddisgyblion, rhieni a staff am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fe aeth popeth yn esmwyth iawn ac roedd yn braf iawn gweld y disgyblion unwaith eto.
Ddechrau’r wythnos, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer ailagor ysgolion i bob disgybl ym mis Medi. Hoffwn amlinellu ein trefniadau yma ond gofynnaf ichi hefyd gadw golwg ar ein gwefan yn ystod y gwyliau am ragor o fanylion neu unrhyw newidiadau. Hoffwn bwysleisio mai trefniadau ar gyfer yr hanner tymor sydd isod, byddwn yn addasu ein trefniadau a’n hamserlen yn ôl y galw ac yn unol a chanllawiau’r llywodraeth. Os oes gennych unrhyw gwestiwn cofiwch gysylltu drwy e bost.
Canlyniadau TGAU, AS a Lefel A
- Bydd yr ysgol ar agor ar y 13eg o Awst i ddisgyblion blwyddyn 12 a 13 ddod i gasglu eu canlyniadau a derbyn unrhyw gymorth allai bod angen arnynt. Bydd manylion am drefniadau’r dydd yn ymddangos ar y wefan erbyn y 12fed o Awst.
- Bydd yr ysgol ar agor ar yr 20fed o Awst i ddisgyblion blwyddyn 11 ddod i gasglu eu canlyniadau, derbyn cyngor a chofrestru ar gyfer cyrsiau chweched dosbarth yr ysgol. Bydd manylion am drefniadau’r dydd yn ymddangos ar y wefan erbyn y 19eg o Awst.
Dyddiadau cychwyn ysgol ym mis Medi
- 1af ac 2il o Fedi – ysgol ar agor i staff yn unig.
- 3ydd o Fedi – Ysgol ar agor i flwyddyn 7 yn unig.
- 4ydd o Fedi – Ysgol ar agor i flynyddoedd 7, 11,12 a 13.
- 7fed o Fedi – Ysgol ar agor i flynyddoedd 7,10,11,12 a 13.
- 8fed o Fedi – Ysgol ar agor i flynyddoedd 7,9,10,11,12 a 13.
- 9fed o Fedi ymlaen – ysgol ar agor i bawb.
- Disgwylir i bob disgybl ddod i’r ysgol oni bai ei fod yn sâl.
Iechyd a Diogelwch
- Bydd y trefniadau roddwyd mewn lle ddiwedd tymor yr haf yn parhau mewn grym. Fyddwn ni ddim yn mesur tymheredd pawb onibai eu bod yn teimlo’n sâl.
- Ni ddylid disgybl sy’n dangos symptomau Covid 19 gael eu hanfon i’r ysgol. Os fydd disgybl yn teimlo’n sâl neu yn dangos symptomau, byddant yn mynd i’r ystafell cymorth cyntaf i aros i rywun eu casglu.
- Mae diheintyddion ar y wal ger bob mynedfa, mewn toiledau ac yn y dosbarthiadau. Byddwn yn annog disgyblion i ddod a photel fach o ddiheintydd gyda nhw os yw hynny’n bosibl i arbed amser ar ddechrau gwersi.
- Mae croeso i ddisgyblion wisgo masg os ydynt eisiau.
Dosbarthiadau a gwersi
- Bydd hafan tu mewn a thu allan wedi ei chlustnodi ar gyfer pob blwyddyn gyda mynedfa a thoiledau penodol.
- Er mwyn lleihau symud bydd disgyblion yn aros yn yr un ystafell ddosbarth drwy'r dydd. Yr unig eithriad fydd mynd i wers Addysgu Gorfforol (CA3 a CA4); mynd i wers opsiwn sydd angen bod mewn ystafell benodol (CA4) a symud rhwng grwpiau craidd o fewn yr hafan (CA4).
- Bydd gwersi CA5 yn dilyn y drefn arferol ac i'w dysgu ym mloc y chweched onibai bod rhaid gwneud gwaith ymarferol
- Bydd disgyblion 7,8 a 9 yn aros yn eu grwpiau dysgu (MORLLWYN) ar gyfer cofrestru a gwersi. Fydd dim rhannu grwpiau na setio yn digwydd yn 7,8 a 9.
Offer a Gwisg
- Disgwylir i ddisgyblion wisgo gwisg ysgol swyddogol yr ysgol.
- Ar ddiwrnod gwers Addysg Gorfforol, gofynnwn i ddisgyblion ddod i’r ysgol yn eu gwisg addysg gorfforol; top addysg gorfforol, trowsus, legings neu dracwisg du / glas tywyll PLAEN, fleece addysg gorfforol neu siwmper ysgol, sannau a trainers.
- Bydd angen i ddisgyblion ddod a ch?t law gan y bydd disgwyl iddynt fod y tu allan amser egwyl a chinio oni bai ei bod yn tywallt y glaw.
- Bydd angen i ddisgyblion ddod a bag ysgol fydd yn cynnwys eu llyfrau, offer ysgrifennu, d?r ac unrhyw fwyd / byrbryd hoffent, diheintydd.
Ffonau symudol a dyfeisiadau digidol
- Bydd gan ddisgyblion ganiatâd i ddod a ff?n symudol/ tabled / gliniadur i’r ysgol a’u defnyddio yn y gwersi gyda chaniatâd yr athro. Bydd hyn yn caniatáu athro i rannu adnoddau yn ddigidol yn lle defnyddio copïau papur, yn hwyluso’r dysgu os oes raid i ddisgybl aros adref i hunan ynysu ac yn caniatáu asesu gwaith ar lein.
- Bydd disgyblion yn cael defnyddio rhyngrwyd BYOD (Bring your own device) yr ysgol fydd yn rhoi mynediad am ddim i’r we ac yn rhoi cyfyngiadau ar y math o wefannau gant eu defnyddio.
- Os nad oes gan ddisgybl ff?n ‘smart’ neu ddyfais arall, byddant yn cael benthyg un am y dydd.
- Cyfrifoldeb y disgybl fydd diogelwch eu dyfais felly gwiriwch fod gennych yswiriant addas yn ei le.
- Ni fydd hawl gan ddisgybl i ddefnyddio’r ddyfais heb ganiatâd yr athro a ni fydd caniatâd iddynt eu defnyddio amser egwyl a chinio er mwyn annog cymdeithasu iach.
Disgyblion ag anghenion dysgu penodol a disgyblion bregus
- Bydd y tîm bugeiliol yn cysylltu â’r disgyblion hynny sydd ddim wedi dod i’r ysgol ym mis Gorffennaf i weld a oes angen cymorth arnynt wrth ddychwelyd ym mis Medi.
- Bydd y tîm bugeiliol yn rhoi gwybod i athrawon am ddisgyblion sy’n bryderus iawn am ddychwelyd neu sydd wedi dioddef profiad trawmatig yn ystod y cyfnod clo.
- Bydd disgyblion bregus yn parhau i gael mynediad i gefnogaeth drwy’r Hwb Bugeiliol a bydd gwers Iechyd a Lles ar amserlen 7,8 a 9.
- Bydd disgyblion ag anghenion dysgu penodol yn parhau i dderbyn cymorth ac ymyrraeth. Mae’n debyg mai yn uned Camau y bydd llawer o’r ymyrraeth hwn yn digwydd gan fod raid i gymhorthwyr, fel pob aelod o staff, gadw pellter o 2 fedr rhyngddynt eu hunain a disgyblion.
Trefniadau bwyd
- Ar hyn o bryd, nid yw Adran Arlwyo yr awdurdod wedi cyhoeddi eu trefniadau yn swyddogol.
- Mae’n debygol na fydd bwyd bore ac egwyl ar gael, bydd gofyn i ddisgyblion ddod a byrbryd gyda nhw os ydynt eisiau.
- Caiff disgyblion ddod a chinio gyda nhw neu archebu pecyn bwyd oer / poeth ar gyfer cinio. Bydd hwn yn cael ei gludo i’r dosbarth a’i fwyta yno. Mae’n annhebygol y caiff disgyblion fynd i’r ffreutur o gwbl.
- Dylai taliadau cinio gael eu gwneud ar lein.
Trafnidiaeth
- Ar hyn o bryd, nid yw Adran Drafnidiaeth yr awdurdod wedi cyhoeddi eu trefniadau.
Cofiwch gadw llygad am fwy o wybodaeth a chanllawiau pellach ar wefan yr ysgol. Ar ddiwedd tymor fel hyn, hoffwn gymryd y cyfle i ffarwelio efo’r athrawon sy’n gadael ar ddiwedd y tymor, Mrs Einir Wheldon Jones ( ar ôl 35 mlynedd o wasanaeth i’r ysgol), Mr Rhodri Jones ( ar ôl 13 mlynedd o wasanaeth i’r ysgol), Mr Gerallt Richards, Mr Daniel Hughes, Miss Jess Loyd a Mr Jake Phillips. Croeso yn ôl i Miss Nicole Marubbi hefyd.
Gan ddymuno gwyliau haf diogel a hapus i bawb