Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Athro / athrawes Saesneg

Mae Ysgol Morgan Llwyd yn awyddus i benodi athro / athrawes Saesneg i ddechrau ar y 1af o Fedi, 2026. Mae hon yn swydd llawn amser, parhaol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at ddysgu Saesneg i flynyddoedd 7-11 gyda’r posibilrwydd o ddysgu Lefel A Llenyddiaeth Saesneg.

Am ragor o wybodaeth gweler y pecyn gwybodaeth sydd ar gael ar wefan yr ysgol neu cysylltwch gyda Miss Rhian Owen drwy e-bost ar [email protected] neu ffoniwch 01978 315050.

I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwelwch yn dda a’i dychwelyd at Miss Rhian Owen, drwy e-bost erbyn 12pm, 24ain o Chwefror.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran. Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).


Downloads