Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Athro / Athrawes x 2

Mae Ysgol Morgan Llwyd yn awyddus i benodi 2 athro/ athrawes i ddysgu amrywiol bynciau yn yr ysgol. Bydd yr union bynciau hynny yn ddibynnol ar allu a dymuniad yr ymgeiswyr llwyddiannus. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn addysgu disgyblion blynyddoedd 7 ac 8 yn bennaf, ond eto bydd hyblygrwydd i addysgu disgyblion h?n yr ysgol petai’r unigolyn yn awyddus i wneud hynny. Croesawir ceisiadau gan athrawon sydd wedi eu cymhwyso i ddysgu mewn ysgolion cynradd neu ysgolion uwchradd.

Mae’r ddwy swydd yn swyddi llawn amser, ar gytundeb blwyddyn, i ddechrau ym Medi 2024. Telir cyflog yn unol a graddfa gyflog athrawon.

 

Am ragor o wybodaeth gweler y pecyn gwybodaeth neu cysylltwch gyda Miss Rhian Owen drwy e-bost ar owenr350@hwbcymru.net neu ffoniwch 01978 315050.

 

I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwelwch yn dda a’i dychwelyd at Miss Rhian Owen, drwy e-bost erbyn hanner dydd ar yr 20fed o Fai.

 

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran

Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).

 

Ysgol Morgan Llwyd require 2 teachers to start September 2024. The ability to speak Welsh is essential for these posts.


Downloads