Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Cymhorthydd Dosbarth Lefel 4

Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn dymuno penodi Cymhorthydd Dysgu Lefel 4 i weithio yn yr ysgol hapus a llwyddiannus hon.

Mae’r Corff Llywodraethol yn frwd dros addysg ac yn awyddus i barhau ar ein taith o welliant.Rydym yn chwilio am berson gweithredol a brwdfrydig sy’n rhannu’r weledigaeth:

Ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.

Ategu at waith proffesiynol athrawon drwy dderbyn cyfrifoldeb am agweddau dysgu y cytunir arnynt. Gall hyn gynnwys, cynllunio, paratoi a darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion / grwpiau neu yn y byr dymor ar gyfer y dosbarth cyfan a monitro ac asesu, cofnodi ac adrodd am lwyddiant cynnydd a datblygiad disgyblion. Cyfrifoldeb am reoli a datblygu maes arbenigol o fewn yr ysgol a /neu reoli cynorthwywyr dysgu eraill gan gynnwys dyrannu a monitro, gwerthuso a hyfforddiant. Am ragor o wybodaeth gweler y Swydd Ddisgrifiad.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon yn hanfodol.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda Miss Rhian Owen Rheolwr Busnes owenr350@hwbcymru.net.

I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwelwch yn dda a’i ddychwleyd at Miss Rhian Owen, Rheolwr Busnes, drwy e-bost owenr350@hwbcymru.net erbyn hanner dydd ar 10 Mai 2024.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)

This is an advertisement for a Level 4 Teaching Assistant for which the ability to communicate through Welsh is essential.


Downloads