Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Swyddog Cefnogi Disgyblion

Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Swyddog Cefnogi Disgyblion i ddechrau o fis Medi 2025. Mae hon yn swydd llawn amser, barhaol. Mae hyblygrwydd i addasu’r oriau hyn i’r ymgeisydd cywir ond fe allai hyn effeithio ar y cyflog.

Am ragor o wybodaeth gweler y daflen wybodaeth neu cysylltwch gyda Miss Rhian Owen drwy e-bost ar [email protected] neu ffoniwch 01978 315050.

 I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwelwch yn dda a’i dychwelyd at Miss Rhian Owen, drwy e-bost erbyn hanner dydd ar ddydd Gwener, y 11eg o Orffennaf.

 Mae’r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon yn hanfodol.

 

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran. Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)


Downloads