Disgyblion a chyfleusterau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Trosglwyddo Blwyddyn 9 i 10

Mae dewis opsiynau TGAU yn gyfnod cyffrous a phwysig i'n disgyblion blwyddyn 9. Tra bydd rhai disgyblion yn gwybod yn union pa bynciau hoffent ddewis, bydd eraill angen cymorth, arweiniad ac ysbrydoliaeth. I helpu'n disgyblion, byddwn yn trefnu cyfres o weithgareddau a digwyddiadau gan gynnwys cyflwyniadau i ddisgyblion a rhieni, gweithdai gyrfau a llawer mwy (gweler y calendr opsiynau).  Bydd disgyblion yn llenwi dwy ffurflen opsiwn; bydd y gyntaf yn cynnwys dewis agored a'r prif bwrpas yw gweld pa bynciau fyddwn yn eu rhedeg a pha rai fydd yn cael eu cynnig mewn mwy nag un golofn. Byddwn wedyn yn llunio'r tair colofn opsiwn a bydd disgyblion yn llenwi ail ffurflen, y tro hwn gan ddewis un pwnc o bob colofn. Anelwn i ddechrau ar y cyrsiau TGAU yn hanner tymor olaf blwyddyn 9.

 

 

Downloads