 
		Athro / Athrawes Saesneg
Mae Ysgol Morgan Llwyd yn awyddus i benodi athro / athrawes Saesneg dros dro yn dechrau ar y 5ed o Ionawr, 2026 hyd yr 17eg o Orffennaf, 2026. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at ddysgu Saesneg i flynyddoedd 7-11.
Mae hon yn swydd dros dro, rhan amser, tri diwrnod yr wythnos (Mawrth, Mercher a Gwener). Telir cyflog yn unol a graddfa gyflog athrawon.
Am ragor o wybodaeth gweler y pecyn gwybodaeth sydd ar gael ar wefan yr ysgol neu cysylltwch gyda Miss Rhian Owen drwy e-bost ar [email protected] neu ffoniwch 01978 315050.
I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwelwch yn dda a’i dychwelyd at Miss Rhian Owen, drwy e-bost.
 
				
		





